Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Defnydd dros dro ac achlysurol

​​Hysbysiadau defnydd dros dro


Gall gweithredwr gamblo ddefnyddio’r safle at ddibenion gamblo dros dro, pan nad oes trwydded ar waith.  Ymhlith y safleoedd all fanteisio ar hyn mae gwestai, canolfannau arddangos, canolfannau cynadleddau a lleoliadau chwaraeon.


Gall gweithredwr gamblo ddefnyddio’r safle at ddibenion gamblo dros dro, pan nad oes trwydded ar waith.  Ymhlith y safleoedd all fanteisio ar hyn mae gwestai, canolfannau arddangos, canolfannau cynadleddau a lleoliadau chwaraeon.


Rhaid i’r hysbysiad gael ei gyflwyno i’r awdurdod trwyddedu o leiaf 3 mis ac 1 diwrnod cyn y diwrnod y bydd y digwyddiad gamblo’n cael ei gynnal, a rhaid copïo’r canlynol i mewn:


  • Y Comisiwn Gamblo
  • yr Heddlu
  • Comisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi; ac, os yn berthnasol
  • unrhyw awdurdod trwyddedu arall yn yr ardal lle mae’r eiddo. 



    Cyn gwneud cais dylech ddarllen y nodiadau canllaw ar Ddeddf Gamblo 2005.


    Ffurflen gais Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro


    Cwblhewch y ffurflen gais a’i dychwelyd i ni yn y post neu mewn person:


    Trwyddedu,
    Cyngor Caerdydd,
    Neuadd y Sir,
    Glanfa'r Iwerydd,
    Caerdydd,
    CF10 4UW​​


    Ffioedd a chostau trwyddedau gamblo


    Gallwch dalu fel a ganlyn:


    • Cerdyn debyd (dros y ffôn yn unig – 0300 123 6696)
    • Sieciau (yn daladwy i ‘Cyngor Caerdydd’)
    • Gallwch hefyd dalu drwy BACS:
      Cod Didoli 52-21-06 ​
      Rhif y Cyfrif. 20408838
      Cyfeiriad: Natwest, 96 Heol-y-frenhines, Caerdydd, CF10 2GR​​​

      Rhowch wybod i ni am y cyfeirnod a’r dyddiad talu os ydych yn talu drwy BACS fel y gallwn ddod o hyd i’r taliad.


    Hysbysiadau defnydd achlysurol


    Gallwch ddefnyddio hysbysiad defnydd achlysurol os bydd betio’n digwydd am 8 diwrnod neu lai yn ystod y flwyddyn calendr ar y ‘trac’ ac nad oes trwydded betio trac ar waith.


    Dylai perchennog y lleoliad neu’n gweinyddwr digwyddiadau roi gwybod i awdurdod trwyddedu’r cyngor a’r heddlu.  Nid oes modd gwrthwynebu ac nid oes cyfyngiad amser ar roi hysbysiad – gallai gael ei roi ar ddiwrnod y digwyddiad. 



    Cyn gwneud cais dylech ddarllen y nodiadau canllaw ar Ddeddf Gamblo 2005


    Ffurflen gais hysbysiad defnydd achlysurol


    Cwblhewch y ffurflen berthnasol a’i dychwelyd i ni yn y post neu mewn person:


    Trwyddedu
    Cyngor Caerdydd
    Neuadd y Ddinas
    Caerdydd
    CF10 3ND 

    Ffioedd a chostau trwyddedau gamblo


    Gallwch dalu fel a ganlyn:


    • Cerdyn debyd (dros y ffôn yn unig – 0300 123 6696)
    • Arian parod (mewn person yn unig, peidiwch ag anfon arian parod drwy’r post)
    • Sieciau (yn daladwy i ‘Cyngor Caerdydd’)
    • Gallwch hefyd dalu drwy BACS:
      Cod Didoli 30-91-63
      Rhif y Cyfrif. 01467509
      Cyfeiriad: Natwest, 96 Heol-y-frenhines, Caerdydd, CF10 2GR​​

      Rhowch wybod i ni am y cyfeirnod a’r dyddiad talu os ydych yn talu drwy BACS fel y gallwn ddod o hyd i’r taliad.



    Os hoffech ragor o help neu gyngor cysylltwch â ni.


    Cysylltu â ni

                       

     Ffôn Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir: 0300 123 6696 (dilynwch yr opsiynau ar gyfer Trwyddedu Caerdydd).


    Mae llinellau ffôn ar agor rhwng 10am a 3pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

     

    © 2022 Cyngor Caerdydd