Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Masnachwr stryd

​​​​​​Mae’r rhan fwyaf o strydoedd Caerdydd yn ‘strydoedd gwaharddedig’ o ran masnachu ar y stryd. Mae'n drosedd i fasnachu ar y stryd neu o fewn 35 metr i stryd waharddedig. 

Rhestr o strydoedd dynodedig lle gwaherddir masnachu ar y stryd (263kb PDF)​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd

​Mae nifer fach o safleoedd trwyddedig hanesyddol yng Nghaerdydd lle caniateir masnachu ar stryd. Fodd bynnag mae’r cyngor yn benderfynol nad yw am ddyfarnu unrhyw drwyddedau newydd i fasnachu ar y stryd.

Mae caniatâd i fasnachu ar y stryd yn cynnwys mathau mwy anfynych o fasnachu ac fe’u cyhoeddir dim ond ar gyfer digwyddiadau mawr yn y ddinas ar safleoedd penodol. 

Mae’n rhaid i bawb sy'n ymgeisio am ganiatâd i fasnachu ar y stryd gael eu harchwilio gan adran diogelwch bwyd a rheoli gwastraff y cyngor. 

Am fwy o wybodaeth, gweler y polisi trwyddedu masnachu ar y stryd (66kb PDF)​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd. 

Sut i wneud cais 

I gael rhagor o wybodaeth o ran sut i gyflwyno cais am ganiatâd i fasnachu pan fydd digwyddiadau yng Nghaerdydd cysylltwch â’r Adran Drwyddedu​

 

Trwyddedu,
Cyngor Caerdydd,
Neuadd y Sir,
Glanfa'r Iwerydd,
Caerdydd,
CF10 4UW​


Oriau agor

Dydd Llun i dydd Gwener: 10am – 3pm 

Eithriadau

Mae eithriadau ar gael i werthwyr papurau newydd (yn yr unfan neu'n dosbarthu). Cysylltwch â ni i sicrhau eich bod wedi’ch eithrio cyn i chi ddechrau hyfforddi, neu efallai y caiff eich nwyddau eu hatafaelu a gallech wynebu gael eich erlyn a chael dirwy o hyd at £1000.​ 

Pedler​ 

Pedler yw rhywun sy’n teithio a masnachu ar ei draed, gan fynd o dref i dref neu o dŷ i dŷ yn gwerthu nwyddau neu gynnig ei sgiliau gwaith crefft a gwerthu pethau fel lluniau, cadachau a nwyddau ar gyfer y cartref. Caiff person sy’n masnachu’n gyfreithiol dan dystysgrif pedler oddi wrth yr heddlu fasnachu mewn stryd ar sail gyfyngedig, cyn belled â’u bod yn dilyn y rheolau:
  • mae pedler yn gerddwr
  • mae pedler yn masnachu wrth deithio yn hytrach na theithio i fasnachu
  • mae pedler yn mynd at y cwsmeriaid yn hytrach na galluogi cwsmeriaid i ddod at y pedler
  • mae pedler yn werthwr yn hytrach nag atgyweiriwr
  • ni ddylai pedler aros yn ei unfan am gyfnodau maith o amser
  • ni ddylai pedler godi stondin ac aros i bobl ddod ato
 

Rhagor o wybodaeth:

 

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni.               

Cysylltu â ni

029 2087 1651

© 2022 Cyngor Caerdydd