Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Trwyddedau safle

​​​​​Fel Awdurdod Trwyddedu Caerdydd, rydym yn awdurdodi gwerthu neu gyflenwi alcohol, cynnig adloniant wedi’i reoleiddio a bwyd yn yr hwyrnos (sef bwyd a diod a werthir rhwng 11pm a 5am) o safleoedd.

 

Mae’r drwydded yn ddilys tra bod yr eiddo’n cael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau sy’n gofyn am drwydded, a chodir ffi flynyddol amdani. Byddwn yn anfon anfoneb atoch i chi ei thalu bob blwyddyn. 

Gwneud Cais Ar-lein


Gwneud cais drwy’r post 


 


Cwblhewch y ffurflen(ni) berthnasol a’i dychwelyd atom yn y post neu mewn person:

Trwyddedu,
Cyngor Caerdydd,
Neuadd y Sir,
Glanfa'r Iwerydd,
Caerdydd,
CF10 4UW​



Ynghyd â’r ffurflen gais, bydd angen i chi gynnwys y canlynol:

 

  • cynllun o’r safle
  • atodlen gweithredu (disgrifiad byr o sut fydd yr eiddo yn gweithredu’n ddiogel ac yn unol â’r pedwar nod trwyddedu) 
  • y ffi gywir
  • Ffurflen ganiatâd gan y Goruchwylydd Safle Dynodedig, os yw’r cais yn ymwneud â chyflenwi alcohol

 

Os ydych yn gwneud cais drwy’r post, rhaid i chi hefyd anfon copi o’r cais (gan gynnwys unrhyw ddogfennau ategol) i’r awdurdodau cyfrifol ar yr un diwrnod y caiff y cais ei gyflwyno i adran drwyddedu’r cyngor.


Os ydych yn gwneud cais ar-lein, bydd yr adran drwyddedu’n cyflwyno copïau o’ch cais i’r awdurdodau cyfrifol.

 

Pennwyd costau ffioedd gan y Llywodraeth Ganolog. Mae’r ffioedd yn seiliedig ar werth ardrethol annomestig (NDRV)​​​​​​ y safle. Gallwch weld pob ffi yn ffioedd a chostau trwyddedau alcohol ac adloniant (49kb PDF)​​​​​​


Caiff safleoedd heb NDRV eu rhoi ym Mand a at ddibenion ffioedd trwyddedu. Caiff safleoedd sy’n cael eu hadeiladu ac sydd heb eu hasesu gan y VOA eu hystyried yn eiddo Band C.


Gallwch dalu fel a ganlyn:


  • Cerdyn debyd (dros y ffôn yn unig – 029 20871651)
  • Sieciau (yn daladwy i ‘Cyngor Caerdydd’)
  • BACS:
    Cod Didoli 52-21-06 ​
    Rhif y Cyfrif. 20408838
    Cyfeiriad: Natwest, 96 Heol-y-Frenhines, Caerdydd, CF10 2GR​

    Rhowch wybod i ni am y cyfeirnod a’r dyddiad talu os ydych yn talu drwy BACS fel y gallwn ddod o hyd i’r taliad.

Y cyfnod ymgynghori ar gyfer ceisiadau grant/amrywio llawn yw 28 diwrnod wedi i’r cais ddod i law. Os na chawn sylwadau perthnasol o fewn y cyfnod ymgynghori, byddwn yn cyflwyno’r drwydded.


Rhaid i sylwadau ymwneud ag un neu fwy o’r amcanion trwyddedu, sef:


  • atal trosedd ac anrhefn

  • atal niwsans cyhoeddus

  • diogelwch  y cyhoedd

  • amddiffyn plant rhag niwed


    Os cawn sylwadau perthnasol am y cais gan awdurdodau cyfrifol neu bobl eraill, bydd Is-bwyllgor Trwyddedu’r cyngor yn ystyried y cais ac yn cynnal gwrandawiad o fewn 20 diwrnod i ddiwedd y cyfnod ymgynghori. Efallai na fydd angen gwneud hyn os gall y ceisydd ddod i gytundeb â’r gwrthwynebwyr cyn y gwrandawiad.


    Os cynhelir gwrandawiad, gall y drwydded gael ei dyfarnu, neu ei dyfarnu gydag amodau ychwanegol, gall gweithgareddau y mae angen eu trwyddedu yn y cais gael eu heithrio, neu gall y cais gael ei wrthod. Byddwn yn anfon y penderfyniad at y ceisydd ac unrhyw un a wnaeth sylwadau perthnasol a phennaeth yr heddlu.

    Rhaid cael Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig ar gyfer unrhyw eiddo lle caiff alcohol ei gyflenwi dan y drwydded eiddo a rhaid i’w enw ymddangos ar y drwydded. Caiff ei enwi yn yr amserlen gweithredu o ran unrhyw safle â thrwydded safle.


    Ni fydd y DPS o reidrwydd yr un person â deiliad trwydded y safle. Ef fydd y pwynt cyswllt i’r awdurdod trwyddedu o ran yr eiddo bob amser, neu’r heddlu neu’r gwasanaeth tân os oes problemau yn yr eiddo.

    Mae’r drwydded yn ddilys tra bod yr eiddo’n cael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau sy’n gofyn am drwydded, a chodir ffi flynyddol amdani. Byddwn yn anfon anfoneb atoch i chi ei thalu bob blwyddyn.


    Datganiad o Bolisi Deddf Trwyddedu (2.58mb PDF)​​​​​​​​​​​​​​

    Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd. Rydym wrthi’n cyfieithu’r wybodaeth a byddwn yn diweddaru’r dudalen cyn gynted â phosib.

    Mae’r wybodaeth yn y ddogfen hon wedi’i dylunio i’w hargraffu ac efallai na fydd modd gweld popeth ar-lein.


    Asesiad o’r Effaith Gronnol (1.49mb PDF)​​

    Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd. Rydym wrthi’n cyfieithu’r wybodaeth a byddwn yn diweddaru’r dudalen cyn gynted â phosib.

    Mae’r wybodaeth yn y ddogfen hon wedi’i dylunio i’w hargraffu ac efallai na fydd modd gweld popeth ar-lein.



    Os hoffech gael rhagor o wybodaeth,cysylltwch â ni

    Cysylltu â ni

    Ffôn Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir: - 0300 123 6696 (dilynwch yr opsiynau ar gyfer Trwyddedu Caerdydd).


    Mae llinellau ffôn ar agor rhwng 10am a 3pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
    ​​​​​
    © 2022 Cyngor Caerdydd