Ffi trwydded bersonol yw £37.
Y ffi ar gyfer diweddaru cyfeiriad neu gael trwydded newydd yw £10.50.
Ffioedd a chostau trwyddedau alcohol ac adloniant (49kb PDF)
Gallwch dalu fel a ganlyn:
Cerdyn debyd (dros y ffôn yn unig – 0300 123 6696)
Sieciau (yn daladwy i ‘Cyngor Caerdydd’)
Gallwch hefyd dalu drwy BACS:
Cod didoli: 52-21-06
Rhif cyfrif: 20408838
Cyfeiriad: Natwest, 96 Heol-y-frenhines, Caerdydd, CF10 2GR
Rhowch wybod i ni am y cyfeirnod a’r dyddiad talu os ydych yn talu drwy BACS fel y gallwn ddod o hyd i’r taliad.
Os nad oes gennych unrhyw gollfarnau, eich bod wedi’ch hyfforddi’n addas a’ch bod dros 18 oed, does dim rheswm pam na ddylech allu cael trwydded bersonol.
Mae gan yr heddlu 14 diwrnod i wrthwynebu cais. Os na fydd yr heddlu’n gwrthwynebu a bod y cais yn bodloni’r holl feini prawf, caiff y drwydded ei dyfarnu.
Unwaith i chi gael y drwydded, mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r Awdurdod am unrhyw newidiadau i’ch cyfeiriad. Mae’n drosedd dan Ddeddf Trwyddedu 2003 i beidio â gwneud hynny.