Fel yr Awdurdod Trwyddedu i Gaerdydd, ni sy’n gyfrifol am ddyfarnu ystod o drwyddedau anifeiliaid i sicrhau bod sefydliadau a pherchnogion anifeiliaid yn cydymffurfio â’r safonau gofynnol.
Sut i wneud cais
Mae’n bosibl gwneud cais am rai trwyddedau ar-lein. O ran ceisiadau eraill bydd gofyn i chi ddarllen a chwblhau ffurflen gais neu ffurflenni cais perthnasol o’r rhestr isod a’u dychwelyd atom ni.
Dylech hefyd ddarllen yr amodau sy’n berthnasol i’r cais (os ydynt ar gael).
Siop anifeiliaid anwes
Sefydliadau llety anifeiliaid fel cartref cŵn neu gathod
Sefydliad Marchogaeth
Sefydliad bridio cŵn
Anifeiliaid sy’n perfformio
Sŵ
Cwblhewch y ffurflen(ni) berthnasol a’i dychwelyd atom yn y post neu mewn person:
Trwyddedu
Cyngor Caerdydd
Neuadd y Ddinas
Caerdydd
CF10 3ND
Oriau agor
Dydd Llun i dydd Gwener: 10am – 3pm
Faint fydd cost trwydded?
Ffioedd a chostau Trwyddedau Cyffredinol.
Gallwch dalu fel a ganlyn:
- Cerdyn debyd (dros y ffôn yn unig – 029 20871651)
- Sieciau (yn daladwy i ‘Cyngor Caerdydd’)
Gallwch hefyd dalu drwy BACS:
Cod didoli: 52-21-06
Rhif cyfrif: 20408838
Cyfeiriad: Natwest, 96 Heol-y-frenhines, Caerdydd, CF10 2GR
Rhowch wybod i ni am y cyfeirnod a’r dyddiad talu os ydych yn talu drwy BACS fel y gallwn ddod o hyd i’r taliad.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni.
029 2087 1651.