Rydym yn gwneud Gorchymyn Rheoli Traffig Dros Dro (GRhTDD) yn ôl yr angen i stopio neu gyfyngu ar draffig cerbydau a/neu gerddwyr ar hyd y briffordd.
Ble mae GRhTDDau yn cael eu defnyddio?
Gellir gwneud cais am GRhTDDau ar gyfer ffyrdd, troedffyrdd neu Hawliau Tramwy Cyhoeddus (HTCau). Gallwn wneud GRhTDD:
- ar gyfer sefyllfa a gynlluniwyd, neu Hysbysiad Brys os oes angen cyfyngiad ar unwaith ar gyfer sefyllfa nas cynlluniwyd.
- i alluogi gwaith hanfodol ar y briffordd, fel gosod neu gynnal a chadw gwasanaethau fel nwy, trydan neu ddŵr
- ar gyfer gwaith ger y briffordd fel datblygiadau mawr.
Mathau cyffredin o GRhTDDau:
- Cau ffyrdd
- Cyfyngiad aros
- Cyfyngiadau pwysau
- Gwaharddiadau Parcio a Lonydd Bws
Gallant hefyd fod ar ffurf:
- Gwahardd troi
- Cyfyngiad unffordd
- Cyfyngiad cyflymder neu
- Wahardd mynediad
Sut mae gwneud cais?
Faint fydd y gost?
Ffioedd GRhTDD
Hysbysiad brys
| £2,800
|
Gorchymyn 18 mis
| £3,500
|
Digwyddiad cymunedol (llai na 500 o bobl yn mynychu)
| £1,000 |
Digwyddiad mawr (dros 500 o bobl yn mynychu)
| £2,000
|
Beth sy’n digwydd nesaf?