1. Caiff pob safle ei asesu’n unigol ac yn erbyn safonau presennol y Cyngor. Nid yw gosodiadau tebyg
mewn ardal leol yn golygu y caiff eich cais ei gymeradwyo’n awtomatig. Nid yw mannau croesi
hŷn, hanesyddol yn yr un ardal o reidrwydd yn golygu y caiff man croesi newydd ei gymeradwyo.
2. Bydd yr ymgeisydd yn gyfrifol am yr holl gostau adeiladu ar gyfer y man croesi gan gynnwys yr holl
ffioedd. Os ydych wedi’ch cofrestru’n anabl efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn Grant
Cyfleusterau i’r Anabl ac fe’ch hysbysir i gysylltu â Therapi Galwedigaethol ar 029 2023 4222 am
ragor o wybodaeth.
3. Mae angen caniatâd ar gyfer pob man croesi cyn cychwyn unrhyw waith.
4. Cyngor Caerdydd neu'n contractwr enwebedig fydd yr unig ddarparwr cyrbau isel/mannau croesi
sy'n caniatáu i gerbydau a yrrir yn fecanyddol (Car, Fan, Beic Modur) groesi dros y briffordd
gyhoeddus i fynd i'ch dreif/eiddo.
5. Nid yw Cyngor Caerdydd na'n contractwr enwebedig yn gyfrifol am waliau dreif, gerddi neu
unrhyw waith ychwanegol arall oddi ar y briffordd fabwysiedig.
6. Mae’n rhaid cael caniatâd cynllunio ar gyfer pob man croesi i gerbydau ar lwybrau Dosbarthedig.
Mae'n rhaid cael copi o'r caniatâd cynllunio cyn y gellir gwneud cais am fan croesi i gerbydau.
Cysylltwch â’r Adran Gynllunio ar 02922 330805 i gael rhagor o wybodaeth.
7. Os ydych yn denant y Cyngor, Tai neu Breifat, mae’n rhaid cael cymeradwyaeth ffurfiol gan eich
landlord ar gyfer man croesi i gerbydau. Mae’n rhaid cael caniatâd ysgrifenedig cyn y gellir
cymeradwyo’r cais.
8. O dan Ddeddf Priffyrdd 1980, ni chaniateir i ddŵr lifo o eiddo preifat ar draws troedffordd ar i’r
briffordd. Bydd rhaid cyfeirio dŵr wyneb o’ch eiddo i system ddraeniau o fewn ffiniau eich eiddo
eich hun.
9. Os nad yw'n rhydyllog, bydd rhaid cael Caniatâd Cynllunio ar gyfer yr arwyneb ar eich llawr caled,
ffoniwch yr Adran Gynllunio ar 029 2233 0805 i gael rhagor o wybodaeth.
10. Oherwydd y posibilrwydd o gyfyngu nifer y lleoedd parcio ar y stryd i’r gymuned ehangach, ni
chaniateir gwasanaethu un eiddo â dau fan croesi, oni bai y gellir profi bod hynny o fudd
uniongyrchol i ddiogelwch neu os nad yw hynny’n debygol o gael effaith andwyol ar y cyfleusterau
parcio ar y stryd.
11. Os yw ymgeisydd yn symud man croesi cerbydau presennol o fewn tir blaen ei eiddo, rhoddir
dyfynbris i’r ymgeisydd ailosod y droedffordd yn lleoliad yr hen fan croesi.
12. Mae’n debygol iawn y caiff Man Croesi Cerbydau ei wrthod os bwriedir mynd ati drwy le parcio
sy’n bod eisoes, neu le parcio i breswylwyr.
13. Os yw’r man croesi arfaethedig yn agosach na 10 metr at gyffordd gallai greu perygl difrifol a gellid
gwrthod y cais. Os yw’r eiddo wedi ei leoli yn union ar y gyffordd i ddwy heol fe fydd yn gyffredinol
yn fwy diogel i osod y fynedfa ar y ffordd ymyl lai.
14. Ni chaiff unrhyw fan croesi unigol fod yn fwy na 3 metr o led. (Y lleiafswm yw 2.4m). Ni chaiff
unrhyw fan croesi dwbl fod yn fwy na 4.8 metr o led. Mae’n rhaid i ddyfnder y cwrt blaen fod yn
4.8 metr o leiaf, er mwyn sicrhau nad yw cerbydau’n ymwthio allan dros y droedffordd gyhoeddus.
Gall cerbydau sy’n ymwthio allan dros y droedffordd fod yn destun erlyniad. Rhaid parcio cerbydau
ar yr eiddo ar 90 gradd i’r cwrbyn er mwyn cynorthwyo gyda symud cerbydau.
15. Dylid adeiladu pen blaen y llawr caled ar y dramwyfa i gyd-fynd â lefel ymyl cefn y droedffordd
bresennol. Mae hyn yn lleihau’r posibilrwydd y bydd dŵr o’r briffordd yn llifo i’r eiddo preifat.
Efallai y bydd yn rhaid i berchenogion tai addasu lefel y tir o fewn ffin eu heiddo i sicrhau bod ramp
digonol i atal ochr isaf cerbydau rhag crafu yn erbyn y llawr caled wrth ddefnyddio’r man croesi i
fynd i mewn ac allan o’r eiddo.
16. Gall cambr uchel iawn neu fan croesi i gerbydau ar ogwydd sylweddol hefyd achosi problemau ar
gyfer un ai bargodiad pen blaen neu ôl y cerbyd. Gall lefelau’r tir a goleddfau presennol gyfyngu ar
y math o gerbyd a all ddefnyddio man croesi penodol.
17. Os oes gennych borth, ffenestri bae, neu risiau yn arwain at eich drws ffrynt, yna bydd rhaid
ystyried y rhain wrth bennu faint o le sydd gennych i barcio eich car. Hefyd, efallai y bydd angen
ystyried safle eich drws ffrynt yn eich cais, ac a oes lle ar gael ar ochr eich tŷ o fewn ffiniau eich
eiddo.
18. Os oes unrhyw gelfi stryd (megis polion lamp, safleoedd bysus ac ati) yn agos i’r gwaith a fwriedir,
bydd y cais yn destun ymchwiliad gan y Cyngor i asesu’r rheidrwydd ac ymarferoldeb o sicrhau bod
1m rhwng y man croesi ac unrhyw gelfi stryd. Rhaid i unrhyw wal neu ffens sy’n union y tu cefn i
gelfi stryd aros i warchod y celfi stryd. Os bydd rhaid symud celfi stryd, yr ymgeisydd fydd yn
gyfrifol am dalu costau’r gwaith hwn.
19. Ni chaiff Coed Stryd eu tynnu i wneud lle ar gyfer man croesi i gerbydau. Os yw’r man croesi yn
debygol o effeithio ar wreiddiau coeden, yna caiff y cais ei wrthod.
20. Os oes safle bws, nodweddion arafu traffig (twmpathau ffordd), croesfan sebra/pelican, neu
gyfleuster croesi isel i bobl agored i niwed yn uniongyrchol y tu allan i’ch eiddo, mae’n bosib na
chaiff eich cais ei gymeradwyo.
21. Os ydych yn bwriadu gosod gatiau ar eich tramwyfa, mae’n rhaid i’r gatiau agor i mewn i’ch eiddo.
22. Caiff mannau croesi eu cymeradwyo ar y sail y bydd cerbydau’n gyrru â’u trwynau am ymlaen at y
briffordd.
23. Os gwrthodir caniatâd am unrhyw reswm, does dim proses i apelio. Gallwch ofyn am adolygiad y
bydd yn rhaid gwneud cais amdano a nodi’r rhesymau pam nad yw'r gwrthodiad yn cydymffurfio
â’r Telerau ac Amodau. NI CHAIFF y ffi weinyddol ar gyfer eich cais ei had-dalu.
24. Os bydd y cais hwn yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn dyfynbris a bydd angen derbyn y
dyfynbris o fewn 6 mis.
25. Er mwyn cydymffurfio â gofynion Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith, bydd Cyngor Caerdydd yn gwirio
gyda chwmnïau cyfleustodau am unrhyw waith neu offer tanddaearol y gallai'r gwaith effeithio
arnynt.
Rydym yn eich cynghori i gysylltu â'r sefydliadau hyn pe bai gennych unrhyw bryderon pellach
ynghylch cyfarpar yn eich tir preifat eich hun:
- BT
- Virgin Media
- Y Grid Cenedlaethol
- Western Power Distribution
- Network Rail
- Wales and West Utilities
- Dŵr Cymru
- Vodafone
- Asiantaeth yr Amgylchedd - Cyfoeth Naturiol Cymru