Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Casgliadau elusennol

​​​Os ydych yn trefnu casgliad o dŷ i dŷ neu ar y stryd i’ch elusen, bydd angen trwydded arnoch.


Rhaid gwneud ceisiadau o leiaf unwaith y mis cyn y dyddiad casglu a gynigir.



Sut i wneud cais


Cyn gwneud cais dylech ddarllen yr amodau casgliadau o dŷ i dŷ (52kb PDF)​​​​​​​​​​​​ neu’r amodau casgliadau elusennol ar y stryd (37kb PDF)​​​​​​​​​​​​​​.

Gwneud Cais Ar-lein:

Gwneud cais drwy’r post:

 

Cwblhewch y ffurflen(ni) berthnasol a’i dychwelyd atom yn y post neu mewn person:


Trwyddedu,
Cyngor Caerdydd,
Neuadd y Sir,
Glanfa'r Iwerydd,
Caerdydd,
CF10 4UW




 

  • llythyr awdurdodi gan yr elusen
  • copi o’r cyfrifon blynyddol a gyhoeddwyd
  • rhan o’u deunydd

Gallwch wneud cais am ddim.

Mae’r rheolau canlynol yn berthnasol mewn casgliadau codi arian:


  • ni chaiff pobl dan 16 oed gasglu arian. Cyfrifoldeb yr hyrwyddwr yw sicrhau na fyddant yn gwneud hyn.
  • rhaid i bob casglwr fod â bocs casglu, y mae’n rhaid ei rifo a’i gau’n ddiogel, a’i selio, fel nad oes modd ei agor heb dorri’r sêl.
  • rhaid i rifau’r bocsys casglu fod yn olynol
  • rhaid i’r holl arian a gesglir yn ystod casgliad gael ei roi ar unwaith mewn bocs casglu
  • rhaid i’r holl focsys ddangos enw’r elusen neu’r gronfa yn glir
  • rhaid agor pob bocs casgliadau ym mhresenoldeb yr hyrwyddwr a rhywun cyfrifol arall, heblaw pan fo’r bocs heb ei agor yn mynd yn syth at y banc. Os felly, caiff y banc gasglu’r bocs casgliadau
  • rhaid i’r unigolyn sy’n agor y bocs gyfri’r cynnwys a nodi swm gyda rhif y bocs casgliadau ar restr, ac mae’n rhaid iddo gadarnhau hynny
  • ni ellir gwneud unrhyw daliadau i unrhyw gasglwr, neu berson, sy’n gysylltiedig â’r casglu, boed yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, onid yw Cyngor Caerdydd yn cymeradwyo hynny yn y cais
  • os caiff trwydded ei dyfarnu, bydd pob trwyddedai (y person â’r drwydded) yn gyfrifol am gydymffurfio ag amodau’r drwydded.



Os hoffech ragor o help neu gyngor cysylltwch â ni.


Cysylltu â ni

 

Ffôn Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir: 0300 123 6696 (dilynwch yr opsiynau ar gyfer Trwyddedu Caerdydd).

Mae llinellau ffôn ar agor rhwng 10am a 3pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.​


© 2022 Cyngor Caerdydd