Bydd Cyngor Caerdydd yn gwahodd tendrau pan fydd gwerth nwyddau, gwasanaeth neu waith dros £25,000. Pan fydd y gwerth dros £181,302 ar gyfer nwyddau a gwasanaethau, a thros £4,551,413 ar gyfer gwaith, bydd y cyngor yn dilyn Cyfarwyddebau Caffael Cyhoeddus yr UE.
Mae holl gyfleoedd tendro y cyngor i’w gweld ar ein Porth CaffaelDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd. Bydd rhaid i chi gofrestru cyn gallwch ddefnyddio’r porth.
Gellir gweld tendrau sy’n uwch na throthwy UE ar wefan OJEU (Cyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd ac ar GwerthuiGymruDolen yn agor mewn ffenestr newydd
Calendr Contract a Fframwaith
Mae Cyngor Caerdydd wedi creu Cofrestr Contractau Hydref 2020 (445kb PDF)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd sy’n cynnwys rhestr o gontractau a fframweithiau presennol y Cyngor, yn cynnwys cytundebau fframwaith a sefydlwyd gan
Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (GCC)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd.
Nod y rhestr yw rhoi syniad i ddarpar gyflenwyr a chontractwyr o’r amrywiaeth o nwyddau, gwasanaethau a gwaith y mae’r Cyngor yn eu prynu.
Bydd y wybodaeth am bob contract yn cynnwys:
- Categorïau Contract – Pan fo cyflenwyr yn cofrestru ar Proactis gallant ddewis categorïau sy’n berthnasol i’r nwyddau/gwasanaethau/gwaith y maen nhw’n eu cyflenwi er mwyn derbyn hysbysiadau am gyfleoedd sy’n codi.
- Diwrnod dirwyn i ben – y dyddiad y daw’r contract neu’r fframwaith i ben.
- Estyniad – yn dangos a oes cyfle i ymestyn hyd y contract neu fframwaith presennol. Bydd hyn yn adlewyrchu’r hyn a ysgrifennwyd yn yr amodau pan grëwyd y contract.
- Rheolwr Contractau – y person sy’n gyfrifol am reoli’r contract neu’r fframwaith drwy gydol ei oes. Os hoffech drafod y contract neu godi unrhyw gwestiynau gallwch ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost a ddarperir.
- Gwerthwyr – rhestr o werthwyr llwyddiannus ar gyfer pob contract neu fframwaith. Mae’r Cyngor yn annog cyflenwyr, yn enwedig Busnesau Bach a Chanolig neu Ficro Fusnesau a sefydliadau’r Trydydd Sector, i gysylltu â gwerthwyr llwyddiannus i weld a oes cyfleoedd is-gontractio/ ail neu drydedd haen ar gael.
Diben y rhestr yw dangos contractau a fframweithiau cyfredol y Cyngor. Nid yw hyn yn gyfystyr â gwarant y bydd yr un nwyddau, gwasanaethau neu weithiau yn cael eu rhoi ar dendr eto ar ôl i’r contract ddirwyn i ben.
Os bydd contractau o’r fath yn cael eu rhoi ar dendr mae’n debygol y bydd y cyfleoedd yn cael eu hysbysebu rhwng 12 a 6 mis cyn y dyddiad dirwyn i ben.
Dylai darpar gyflenwyr gysylltu â’r Cyngor hyd at 6 mis cyn diwedd contract os oes ganddynt ddiddordeb mewn clywed am gyfleoedd posibl a allai godi yn y dyfodol. Mae’r calendr hwn wedi ei gynllunio i helpu cyflenwyr i gynllunio o flaen llaw ac achub ar bob cyfle.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth