Nod ein
canllaw gwerthu i Gyngor Caerdydd ar gyfer cyflenwyr a chontractwyr (1,571kb PDF)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd yw helpu darparwyr a chontractwyr posibl i ddeall sut mae Cyngor Dinas Caerdydd yn prynu nwyddau, gwasanaethau a gwaith ar hyn o bryd ac i'w helpu i gael gwybod mwy am gyfleoedd a pharatoi am waith.
Mae’r wybodaeth a geir yn y dogfennau hyn wedi’u dylunio i’w hargraffu. Mae’n bosib na fydd modd gweld popeth ar-lein.
Polisi Chwythu'r Chwiban
Mae’r Cyngor yn ymrwymo wrth y safonau didwylledd, cywirdeb ac atebolrwydd uchaf posibl. Yn unol â’r ymrwymiad hwnnw, rydym yn disgwyl i weithwyr a phobl eraill rydym yn ymdrin â nhw sydd â phryderon sylweddol am unrhyw agwedd ar waith y Cyngor leisio’r pryderon hynny. Mae staff contractwyr wedi’u cynnwys ym
Mholisi Chwythu'r Chwiban (279kb PDF)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd y Cyngor a dylent roi gwybod i’r Cyngor am unrhyw bryderon ynghylch ymddygiad staff y Cyngor neu faterion y mae'r Cyngor yn atebol amdanynt. Ymchwilir yn llawn, yn deg ac yn gyfrinachol i bob pryder. I gael rhagor o fanylion, cyfeiriwch at bolisi'r Cyngor.
Sut i gofrestru
I ddod yn gyflenwr i Gyngor Caerdydd, bydd rhaid i chi gofrestru i gael eich cynnwys yng ngyfeirlyfr cyflenwyr corfforaethol y cyngor.
Cofrestru ar-leinDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd
Byddem yn argymell y dylai cyflenwyr hefyd gofrestru gyda phorth caffael sector cyhoeddus Llywodraeth Cymru i gyflenwyr a phrynwyr o Gymru
GwerthwchiGymruDolen yn agor mewn ffenestr newydd
Bydd cofrestru ar-lein yn eich galluogi i ddiweddaru eich proffil yn ôl y galw, bydd yn eich galluogi i chwilio am gyfleoedd tendro Cyngor Caerdydd a gweld yr holl fanylion, yn ogystal â chyfleoedd yn sefydliadau eraill a bydd yn ein galluogi ni i gysylltu â chi yn fwy effeithlon mewn cysylltiad â chyfleoedd tendro presennol ac yn y dyfodol.
Cyflog Byw
Mae Cyngor Dinas Caerdydd yn gyflogwr
Cyflog Byw.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltu â ni
Cysylltu â ni