Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Safonau tai

​Mae dyletswyddau landlordiaid yn cynnwys cynnal a chadw wyneb allanol ac elfennau strwythurol yr eiddo yn ogystal â sicrhau bod y canlynol yn ddiogel ac yn effeithlon: 

Cyflenwadau dŵr, nwy a thrydan; 


  • systemau hylendid personol, glanweithdra a draenio;
  • oergelloedd a rhewgelloedd (os y’u darperir);  
  • systemau awyru;
  • system wresogi’r eiddo;
  • y system gwresogi dŵr. 


 

    Gallwch weld gwybodaeth fanylach am gyfrifoldebau landlordiaid​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd ar wefan y llywodraeth ganolog.

    Tystysgrifau Perfformiad Ynni  ​

    Mae’r Dystysgrif Perfformiad Ynni yn rhoi gwybodaeth i ddarpar denantiaid am effeithlonrwydd yr eiddo o ran ynni.

     

    Ceir rhagor o wybodaeth am Dystysgrifau Perfformiad Ynni​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd ar wefan y llywodraeth ganolog.


    System Mesur Iechyd a Diogelwch Tai

     

    Y System Mesur Iechyd a Diogelwch Tai (HHSRS) yw dull y llywodraeth o werthuso peryglon posibl cyflwr tai o ran iechyd.

     

    Asesir 29 o gategorïau o beryglon tai dan y system hon. Mae gan bob perygl bwysoliad a fydd yn helpu i bennu p’un a oes gan yr eiddo beryglon categori 1 (peryglon difrifol) neu gategori 2 (peryglon eraill).

     

    Mae dyletswydd gyffredinol ar awdurdodau lleol i sicrhau bod tai yn cael eu cynnal a’u cadw mewn cyflwr da ac nad yw preswylwyr yn wynebu risg oherwydd peryglon iechyd a diogelwch yn eu heiddo.

    Ar ôl asesu eiddo byddwn yn cymryd camau priodol i sicrhau bod landlordiaid yn mynd i’r afael ag unrhyw bryderon a nodwyd. 

     

    Gallwch lawrlwytho’r Canllawiau HHSRS i landloridiaid a gweithwyr proffesiynol ym maes tai​​​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd o wefan y llywodraeth ganolog.

     

    © 2022 Cyngor Caerdydd