Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd

​​​​​​​ Nod Cyngor Caerdydd yw sefydlu Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd annibynnol i gefnogi, cynnal a thyfu ecosystem cerddoriaeth Caerdydd​​​​​​. 

Gwnaed cyfres o argymhellion ar gyfer cylch gwaith a chyfansoddiad y Bwrdd o fewn yr Ymchwil ac Adroddiad Strategaeth Caerdydd gan Sound Diplomacy (4.5MB PDF)​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd​​​​​​, ac mae Cyngor Caerdydd yn cynnig sefydlu'r Bwrdd ar sail yr argymhellion hynny yn ogystal â chylch gorchwyl drafft.​ Darllenwch y Grynodeb Gweithredol (10MB PDF)​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd

Pwrpas y Bwrdd yw hyrwyddo sin cerddoriaeth Caerdydd yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, diogelu a hyrwyddo cerddoriaeth ar lawr gwlad a phob lefel, gan ddarparu llwyfan ar gyfer mwy o gyfathrebu a chydweithio ar draws y sector. 

Bydd Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd yn galluogi arbenigwyr o wahanol sectorau i weithio gyda'i gilydd tuag at nodau cyffredin er mwyn elwa a datblygu ecoleg a busnes cerddoriaeth yng Nghaerdydd, gan gefnogi'r dyhead bod Caerdydd yn cael ei dathlu fel Dinas Gerdd.

Ymunwch â Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd


Hoffem wahodd ceisiadau i ymuno â Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd. Bydd Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd yn cynnwys 18 o aelodau sy'n cynrychioli amrywiaeth o sgiliau ac arbenigedd, yn ogystal â chymunedau amrywiol y ddinas. 

Bydd y Cyngor yn trefnu galwad agored o ddatganiadau o ddiddordeb ar gyfer Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd yn seiliedig ar y meini prawf hyn. Bydd y Cyngor yn sicrhau amrywiaeth o gcynrychiolaeth i'r Bwrdd a chydbwysedd rhwng y rhywiau. Bydd darpar aelodau yn llofnodi'r cylch gorchwyl drafft, sy'n amodol ar gymeradwyaeth Cabinet Cyngor Caerdydd.

Yn amodol ar gymeradwyaeth Cabinet Cyngor Caerdydd, bydd y Bwrdd yn cael ei gadeirio gan arweinydd y Cyngor, gyda chymorth swyddogion, gyda'r Cyngor yn gweithredu fel Ysgrifenyddiaeth. Bydd swyddogion y Cyngor yn rheoli'r broses ddethol gychwynnol, gan gyflogi Sound Diplomacy fel asesydd annibynnol ar gyfer recriwtio.

Os hoffech wneud cais am swydd ar y Bwrdd, e-bostiwch CV diweddar a datganiad o ddim mwy na 750 gair yn amlinellu pam yr hoffech chi'r swydd a pha gryfderau ac arbenigedd proffesiynol y byddech chi'n eu cyflwyno i'r Bwrdd. Mae'n ofynnol i chi hefyd amlinellu pa grŵp penodol yr ydych yn ei gynrychioli, gan gyfeirio at gylch gorchwyl pwynt 4. Anfonwch at y:

Rheolwr Diwydiannau Creadigol a Diwylliant, Ruth Cayford i rcayford@caerdydd.gov.uk​ 

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 13ydd Medi 2019 am 5pm.



Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.

Bydd y Cyngor yn prosesu pob data personol yn unol ag egwyddorion y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (RhDDC).

Crynodebau o Gyfarfodydd Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd



Datganiadau i’r wasg ​​​





​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd