Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Ysgol i wasanaethu datblygiad Plasdŵr - Ysgol Gynradd Groes-wen

​​Ysgol Gynradd Groes-wen yw'r enw sydd wedi ei ddewis ar gyfer ysgol gynradd newydd sbon i wasanaethu rhannau o ogledd-orllewin Caerdydd.

Wedi'i lleoli yn natblygiad Plasdŵr ar dir i'r de o Llantrisant Road, bydd Ysgol Gynradd Groes-wen yn derbyn ei disgyblion cyntaf ym mis Medi 2023.

 Agorwyd ceisiadau o ran derbyniadau i ddosbarth Derbyn 2023/24 yn yr ysgol ym mis Tachwedd 2022. Gellir gwneud ceisiadau meithrin ar gyfer Medi 2023 ym mis Ionawr 2023. Bydd disgyblion ym Mlynyddoedd ysgol 1 a 2 yn cael cyfle i wneud cais i'r ysgol o fis Ebrill 2023 i'w derbyn o fis Medi 2023.

Bydd yr ysgol yn ysgol ddwy ffrwd, wedi ei threfnu fel un dosbarth mynediad yn cynnig addysg Gymraeg ac un dosbarth mynediad yn cynnig model iaith ddeuol - 50% addysg cyfrwng Saesneg a 50% addysg Gymraeg.

 Dod o hyd i wybodaeth am wneud cais am le mewn ysgol.​​

 Mae mwy o wybodaeth am Ysgol Gynradd Groes-wen ar gael ar ei gwefan dros dro​.​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd

​Diweddariad Plasdŵr

Yn ei gyfarfod ar 24 Mehefin 2020 cymeradwyodd Cabinet y Cyngor gynnig i sefydlu ysgol gynradd dwy ffrwd â dau Ddosbarth Mynediad gyda darpariaeth feithrin i wasanaethu camau cynnar datblygiad Plasdŵr, gan campasu rhannau o Creigiau, Sain Ffagan, Radur, Pentre-poeth a’r Tyllgoed..

Nododd y Cabinet fod y gwaith o adeiladu datblygiad Plasdŵr a gwaith i ddarparu'r seilwaith hanfodol gan gynnwys seilwaith priffyrdd ar hyd Heol Llantrisant a gwasanaethau strategol fel draenio, dŵr, nwy, trydan a thelathrebu, wedi'u gohirio oherwydd cyfnod clo Covid-19. 

Ar 04 Mai 2022, cymeradwywyd cynllunio ar gyfer ysgol gynradd newydd ac mae gwaith ar y gweill i gyflawni'r ysgol newydd. 

Bydd yr ysgol yn ysgol ddwy ffrwd, wedi ei threfnu fel un dosbarth mynediad yn cynnig addysg Gymraeg ac un dosbarth mynediad yn cynnig addysg Saesneg gyda defnydd sylweddol o’r Gymraeg. Bydd yr ysgol yn cynnig 420 o leoedd i blant o oedran ysgol gynradd.  Yn ychwanegol, fe fydd 96 o lefydd meithrin rhan-amser, gyda hanner y llefydd yn rhai Cymraeg a’r hanner arall yn rhai Saesneg, ond hefyd â defnydd sylweddol o’r Gymraeg.

Mae corff llywodraethu dros dro wedi'i sefydlu ac mae trefniadau'n cael eu gwneud i benodi Pennaeth i weithio mewn partneriaeth â'r corff llywodraethu i sefydlu'r ysgol newydd.  

Bydd ceisiadau am dderbyniadau i'r ysgol yn agor ym mis Tachwedd 2022 ar gyfer y Dosbarth Derbyn a mis Ionawr 2023 ar gyfer Meithrin.  Bydd yr ysgol yn derbyn ei disgyblion cyntaf ym mis Medi 2023.  Bydd disgyblion ym Mlynyddoedd ysgol 1 a 2 hefyd yn cael cyfle i wneud cais i'r ysgol o fis Ebrill 2023 i'w derbyn o fis Medi 2023.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am y broses derbyn i ysgolion yn Gwneud cais am le mewn ysgol.​


​​

Cymeradwyo sefydlu ysgol gynradd i wasanaethu cyfnodau cynnar datblygiad Plasdŵr 


Ar 24 Mehefin cymeradwyodd Cabinet y Cyngor gynnig i sefydlu ysgol gynradd dwy ffrwd â dau Ddosbarth Mynediad gyda darpariaeth feithrin i wasanaethu camau cynnar datblygiad Plasdŵr.

Bydd yr ysgol yn cynnwys dwy ffrwd iaith wedi eu trefnu fel un dosbarth mynediad Cymraeg (30 lle fesul grŵp blwyddyn) ac un dosbarth mynediad Saesneg yn bennaf, gyda defnydd sylweddol o’r Gymraeg (30 lle fesul grŵp blwyddyn) gan ddarparu cyfanswm o 420 lle i ddisgyblion cynradd yn yr ysgol. Bydd y feithrinfa’n cynnig 48 o leoedd meithrin rhan-amser ar gyfer y ffrwd Gymraeg a 48 o leoedd meithrin rhan-amser ar gyfer y ffrwd Saesneg.

Roedd y Cabinet yn fodlon y bydd y cynnig yn:
  • ​ymateb i’r galw amcanestynedig am leoedd Cymraeg a Saesneg cynradd ychwanegol i wasanaethu’r datblygiadau tai newydd yn ardaloedd Creigiau / Sain Ffagan, Radur / Pentre-poeth a’r Tyllgoed.    
  • cael effaith gadarnhaol ar y Gymraeg
  • cyfrannu at a chefnogi strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru trwy gynyddu nifer y plant sy’n derbyn addysg Gymraeg yn gynaliadwy a rhoi budd i’r rhai sy’n dysgu Cymraeg mewn addysg Saesneg ei chyfrwng
  • golygu bod angen i lai o deuluoedd yn yr ardal deithio i rywle arall i gael addysg trwy gyfrwng eu dewis iaith.

Bydd y gwaith adeiladu ar ddatblygiad Plasdŵr yn cael ei atal dros dro o ganlyniad i’r cyfnod cloi Covid-19 ac mae trafodaethau ar y gweill gyda'r datblygwr mewn perthynas â'i amserlen ddiwygiedig. 


Os oes gennych unrhyw gwestiynau am hyn neu os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r Tîm Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion ar 029 2087 2917 neu e-bostiwch: ymatebionysgolion@caerdydd.gov.uk​​​​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd


Cyhoeddi Hysbysiad Statudol Cyfreithiol: Y bwriad i sefydlu darpariaeth ysgol gynradd i wasanaethu cyfnodau cynnar datblygiad Plasdŵr


Cafodd adroddiad ei ystyried gan Gabinet y Cyngor ar 23 Ionawr 2020 a nododd argymhellion yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynnig i sefydlu darpariaeth ysgol gynradd i wasanaethu cyfnodau cynnar datblygiad Plasdŵr 

Mae’r Cabinet wedi cytuno i’r Cyngor fwrw ymlaen i’r cam nesaf a chyhoeddi Hysbysiad Statudol cyfreithiol er mwyn:

  • ​Sefydlu ysgol gynradd dau ddosbarth mynediad ddwy ffrwd gyda darpariaeth feithrin i wasanaethu cyfnodau cynnar y datblygiad ym Mhlasdŵr o fis Medi 2021.

Cyhoeddwyd yr hysbysiad statudol ar 26 Chwefror 2020. 


Mae’r hysbysiad hwn yn caniatáu 28 diwrnod o’r dyddiad cyhoeddi i wrthwynebiadau ffurfiol i’r cynigion gael eu cyflwyno.

Dylid anfon gwrthwynebiadau at y Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, Cyngor Caerdydd, Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd, Caerdydd, CF10 4UW.

Gellir hefyd anfon gwrthwynebiadau at y Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, Cyngor Caerdydd i’r cyfeiriad e-bost canlynol: ymatebionysgolion@caerdydd.gov.uk

Sylwer bod rhaid i unrhyw wrthwynebiadau o’r fath a anfonir drwy e-bost gynnwys enw llawn a chyfeiriad post yr un sy'n gwrthwynebu.

Ymgynghoriad ar y bwriad i sefydlu darpariaeth gynradd ar gyfer camau cynnar y datblygiad ym Mhlasdŵr


Bydd y datblygiadau tai newydd yng ngogledd-orllewin Caerdydd yn cynyddu nifer y plant fydd angen llefydd ysgol yn yr ardal, a bydd hyn yn cael effaith ar argaeledd llefydd yn yr ysgolion presennol.

Fel rhan o’r cytundeb cynllunio ar gyfer adeiladu datblygiad Plasdŵr, mae ysgol gynradd newydd yn cael ei darparu gan ddatblygwr y safle i wasanaethu’r tai yng ngham cyntaf y datblygiad, yr ardal ehangach a rhai datblygiadau tai yn y dyfodol sydd hefyd wedi eu cynllunio.

Bydd yr ysgol newydd ym Mhlasdŵr yn ysgol gynradd â dau ddosbarth mynediad, gyda dwy ffrwd iaith, wedi’u trefnu fel a ganlyn:

  • Un​​​​​​​​ dosbarth mynediad cyfrwng Cymraeg (30 lle fesul grŵp blwyddyn)
  • Un dosbarth mynediad Saesneg yn bennaf sydd â defnydd sylweddol o’r Gymraeg (30 lle fesul grŵp blwyddyn)

Golyga hyn y ceid cyfanswm o 420 o leoedd i gyd.

Bydd hefyd 48 o leoedd meithrin rhan-amser ar gyfer y ffrwd Gymraeg a 48 o leoedd meithrin rhan-amser ar gyfer y ffrwd Saesneg. 
 
Byddai’r newidiadau arfaethedig yn cael eu rhoi ar waith o fis Medi 2021.



Ni fydd yn wahanol. Bydd y ffrwd Gymraeg yn gweithredu yn union fel ysgolion Cymraeg eraill Caerdydd. Mae hynny’n meddwl yn Ffrwd 1 (cyfrwng Cymraeg) y gallwch ddisgwyl y canlynol i’ch plentyn:

  • Bydd eich plentyn yn gallu siarad, darllen ac ysgrifennu yn Saesneg yn unol ag oedran a gallu.
  • Bydd eich plentyn hefyd yn gallu siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg yn unol ag oedran a gallu.
  • Bydd eich plentyn yn gallu symud yn hyderus o un iaith i’r llall yn rhwydd o fewn ei astudiaethau yn yr ysgol a’r tu allan i’r ysgol.
  • Y disgwyliad arferol yw bod disgyblion, beth bynnag fo iaith y cartref, yn gallu trosglwyddo’n hawdd i’r darpariaeth uwchradd sy’n cynnig addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Mae patrwm datblygiad ieithyddol plant sy’n derbyn addysg trwy gyfrwng dwy iaith ac sy’n dilyn rhaglen drochi rywfaint yn wahanol i blant sy’n derbyn addysg trwy gyfrwng un iaith, ond erbyn fod plant yn 11 oed mae sgiliau iaith mewn addysg ddwyieithog yn cyrraedd yr un lefelau cynnydd priodol yn y Gymraeg a’r Saesneg. 
Mewn ysgol cyfrwng Saesneg draddodiadol, mae’r plant yn cael eu haddysgu yn Saesneg gan fwyaf, rhwng tua 80% - 90% yn Saesneg a 10% - 20% yn Gymraeg. Caiff y Gymraeg ei haddysgu a’i hasesu fel rhan o’r maes dysgu a phrofiad ar gyfer ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu ac ar draws y meysydd dysgu a phrofiad eraill.

Yn yr ysgol newydd cynigir, yn yr ail ffrwd, er mai Saesneg fydd y brif iaith a siaradir yn yr ysgol o hyd y byddai’r disgyblion yn cael eu haddysgu yn Gymraeg a Saesneg gan symud tuag at amser cyfartal i’r ddwy iaith. Bydd termau cyffredin yn cael eu cyflwyno yn y meysydd dysgu a phrofiad yn y ddwy iaith.

Yn gyffredinol, bydd y Gymraeg a meysydd o ddysgu a phrofiad sy’n cael eu haddysgu yn Gymraeg yn cael eu profi’n Gymraeg, a bydd meysydd o ddysgu a phrofiad sy’n cael eu haddysgu yn Saesneg yn cael eu profi’n Saesneg.

Golyga hyn, yn ffrwd 2 (cyfrwng Saesneg yn bennaf yn ôl y cynnig) gallwch ddisgwyl y canlynol i’ch plentyn:

  • Bydd eich plentyn yn gallu siarad, darllen ac ysgrifennu yn Saesneg yn unol ag oedran a gallu.
  • Bydd eich plentyn hefyd yn gallu siarad Cymraeg mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd cyfarwydd ac anghyfarwydd ac yn gallu mynegi ei farn yn syml a chlir.
  • Bydd gan eich plentyn eirfa eang a’r sgiliau hanfodol i barhau ag agweddau ar ei iaith drwy gyfrwng y Gymraeg ar lefel Uwchradd.
  • Gall plant sy’n cael eu haddysg yn Ffrwd 2 drosglwyddo i ysgolion uwchradd sy’n darparu yn y ddwy iaith.

Dweud eich dweud


Gallwch lawrlwytho copi o’r ddogfen ymgynghori yn nodi’r manylion arfaethedig.




Drwy’r post i’r Tîm Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion, Ystafell 422, Neuadd y Sir, Caerdydd, CF10 4UW
 
Rydym wedi trefnu cyfarfodydd cyhoeddus a sesiynau galw heibio y gallwch fynd iddynt os hoffech i ni esbonio’r newidiadau awgrymedig i chi neu ofyn cwestiynau. ​
 
Natur yr ymgynghoriad​Dyddiad/Amser​​Lleoliad ​​​
Sesiwn Galw Heibio​
​​​​Dydd Llun 16 Medi, 10.00 – 11.30 am​Redrow, Clos Parc Radur, Radur​
Cyfarfod cyhoeddus
​Dydd Llun 30 Medi, 6.30 – 8.00pmYsgol Gyfun Radur
Sesiwn Galw Heibio
​Dydd Mawrth 1 Hydref, 10.00 -11.30amCanolfan Hamdden y Tyllgoed
​Sesiwn Galw Heibio D​ydd Iau 3 Hydref, 5.00 -7.30pm​Llyfrgell Ganolog
Sesiwn Galw Heibio ​Dydd Llun 7 Hydref, 2.00 -3.30pm​Llyfrgell Radur​
 


​​​​​​​​​​​
​​
© 2022 Cyngor Caerdydd