Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Map Rhwydwaith Teithio Llesol

​​Mae'r Map Rhwydwaith Teithio Llesol yn dangos llwybrau presennol a’r dyfodol ar gyfer cerdded a beicio a fydd yn helpu trigolion i deithio o amgylch y ddinas yn haws. Rydym wedi gwneud hyn er mwyn bodloni gofynion Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.  

Mae llwybrau’r dyfodol sydd i'w gweld ar y map yn gynigion a gaiff eu cyflwyno yn ystod y 15 mlynedd nesaf. Bydd y map yn cael ei ddefnyddio i benderfynu pa gynlluniau cerdded a beicio fydd yn cael blaenoriaeth ar gyfer prosesau dylunio a gweithredu. 

Mae'r llwybrau presennol wedi'u harchwilio i ddangos eu bod yn cyrraedd y safonau sy'n ofynnol o dan Ganllawiau Dylunio Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.  Mae llwybrau cerdded a beicio eraill ar gael yng Nghaerdydd ond dim ond y rhai sy'n cyrraedd y safonau hyn a ddangosir ar y map.
 
Ar ôl ymgynghoriad cyhoeddus 2021, gwnaethom ddiwygio'r Map Rhwydwaith Teithio Llesol ac fe'i cymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2022. 




​​​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd