Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Ydy’ch amgylchiadau wedi newid

​​​​​​​Gallai newidiadau i’ch amgylchiadau personol effeithio ar faint o fudd-dal Tai a Gostyngiad y Dreth Cyngor a gewch. 

Sicrhewch eich bod yn dweud wrthym am unrhyw newidiadau sylweddol i’ch amgylchiadau fel y gallwn newid ein cofnodion a gwneud unrhyw newidiadau i’ch taliadau. 
Os ydych yn derbyn Budd-dal Tai a Gostyngiad y Dreth Cyngor, dim ond unwaith sydd eisiau adrodd y newid i ni. 

Gallwch wirio'r wybodaeth sydd gyda ni am eich amgylchiadau personol, ac adrodd i ni am unrhyw newidiadau i’ch amgylchiadau ar-lein.

 

Bydd angen with rhif cais cyfredol arno chi, sydd wedi cael ei ysgrifennu ar unrhyw llythr rydyn wedi danfon i chi. Gallwch hefyd adrodd am unrhyw newidiadau yn eich Hyb​ lleol, neu ffonio 029 2087 1071. 

Mae angen i chi ddweud wrthym ni os: 

  • ydych yn newid cyfeiriad 
  • ydych chi neu eich partner yn dechrau gweithio, yn newid swydd neu’n cael codiad cyflog 
  • oes unrhyw newid yn eich incwm chi neu’ch partner 
  • os yw unrhyw fudd-daliadau lles yn newid, fel credydau treth os yw eich Lwfans Ceisio Gwaith neu Gymhorthdal Incwm yn dod i ben 
  • os yw un o’ch plant yn gadael ysgol neu’ch bod chi’n cael babi 
  • os yw unrhyw un yn symud i mewn neu allan o’r eiddo, hyd yn oed dros dro
  • os mae unrhyw un sy’n byw yn yr eiddo yn mynd ban am fwy na 4 wythnos, hyd yn oed ac maen nhw dim ond wedi mynd ar wyliau neu i aros gyda theulu​
  • os oes gennych bartner newydd neu os ydych yn priodi neu’n gwahanu 
  • os oes newid yn eich cynilion (dim ond os ydynt dros gyfanswm o £6000) 
  • os ydych chi’n dechrau neu'n gorffen talu costau gofal plant neu os yw’r swm yn newid 
  • os yw eich rhent yn newid (oni bai eich bod chi’n denant i’r cyngor) 
  • os oes newid yn amgylchiadau unrhyw un yn eich cartref 
  • os oes angen i chi gofrestru eich cyflogaeth gyda’r Swyddfa Gartref (cofiwch ddweud wrthynt os ydych yn newid eich swydd, a dywedwch wrthym ni hefyd). 



​Dim ond enghreifftiau yw’r rhain a dylech ddweud wrthym ar unwaith am unrhyw newid a allai effeithio ar eich budd-dal.

​​

© 2022 Cyngor Caerdydd