Gofynnir i’r Cyngor adolygu ei drefniadau Derbyn i Ysgolion yn flynyddol.
Fel rhan o hyn, mae’r cyngor yn cynnig ar gyfer blwyddyn ysgol 2020/21, i newid dalgylchoedd rhai o’r ysgolion cynradd ac uwchradd Cymraeg.
Mae’r newidiadau arfaethedig i ddalgylchoedd cynradd yn cynnwys:
- sefydlu dalgylch i Ysgol Gynradd Gymraeg Hamadryad
- newidiadau i ddalgylchoedd Ysgol Mynydd Bychan, Ysgol Gymraeg Nant Caerau, Ysgol Gymraeg pwll Coch ac Ysgol Gymraeg Treganna.
Mae’r newidiadau a gynigir i ddalgylchoedd ysgolion uwchradd yn cynnwys:
- trosglwyddo dalgylch Ysgol Glan Morfa o Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf i Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern
- newid ffiniau rhwng dalgylchoedd Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf ac Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, ar y ffin cynradd rhwng Ysgol Pwll Coch ac Ysgol Treganna
Dweud eich dweud
Gallwch lawrlwytho copi o’r ddogfen ymgynghori yn nodi’r manylion arfaethedig.
Ymgynghoriad ar gau.
Y dyddiad cau ar gyfer ymateb i’r ymgynghoriad yw 26 Chwefror 2020.
Penderfyniad ar Ddalgylchoedd Cynradd ac Uwchradd cyfrwng Cymraeg 2021/2022
Ymgynghorodd y Cyngor ar gynigion i newid dalgylchoedd ysgolion cynradd ac uwchradd cyfrwng Cymraeg yn ddiweddar.
Cafodd adroddiad ar yr ymgynghoriad ei ystyried gan Gabinet y Cyngor yn ei gyfarfod ar 19 Mawrth 2020 lle cytunodd y Cabinet ar y newidiadau canlynol i ddalgylchoedd cyfrwng Cymraeg:
- Sefydlu dalgylch ar gyfer Ysgol Gynradd Gymraeg Hamadryad
- Newidiadau i ddalgylchoedd Ysgol Mynydd Bychan, Ysgol Gymraeg Nant Caerau, Ysgol Gymraeg Pwll Coch ac Ysgol Gymraeg Treganna fel y nodir yn Opsiwn A yn nogfen ymgynghori dalgylchoedd Cyfrwng Cymraeg.
- Trosglwyddo dalgylch Ysgol Glan Morfa o Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf i Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern.
Cafodd newidiadau arfaethedig i ddalgylchoedd uwchradd Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf ac Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr yn Nhreganna a Glan-yr-afon eu gohirio.
Mae’r Cyngor yn disgwyl ymgynghori ar ddiwygiadau pellach i ddalgylchoedd uwchradd cyfrwng Cymraeg yn Nhreganna a Glan-yr-afon, ym mlwyddyn academaidd 2024/2025, i'w gweithredu ym mlwyddyn academaidd 2026/2027.