Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

​​​Os ydych yn dod o'r UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein, efallai y byddwch chi a'ch teulu yn gallu gwneud cais i’r Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE i barhau i fyw yn y DU. Efallai y gallwch hefyd wneud cais os ydych yn aelod o deulu person cymwys o Ogledd Iwerddon. 

Y dyddiad cau i'r rhan fwyaf o bobl wneud cais i’r Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE oedd 30 Mehefin 2021.

Os ydych chi neu'ch teulu yn dod o'r UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein, gallwch wneud cais o hyd os oeddech chi neu aelod o'r teulu yn byw yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020. Rhaid i chi hefyd naill ai:

  • fodloni un o’r meini prawf ar gyfer dyddiad cau hwyrach ar gyfer gwneud cais
  • cynnig ‘sail resymol’ dros beidio â gwneud cais erbyn 30 Mehefin 2021


Gallwch hefyd wneud cais os oes gennych statws preswylydd cyn-sefydlog eisoes, a'ch bod yn gwneud cais am statws preswylydd sefydlog.

Efallai y byddwch yn gallu aros yn y DU heb wneud cais - er enghraifft, os ydych yn ddinesydd Gwyddelig, neu os oes gennych eisoes ganiatâd amhenodol i ddod i mewn neu i aros.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwch naill ai’n cael statws preswylydd sefydlog neu statws preswylydd cyn-sefydlog.

Cofrestrwch i gael diweddariadau e-bost​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd ynglŷn â’r Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.

​Cymorth gyda'r broses ymgeisio

Gallwch gael y ffurflen gais ar wefan GOV.UK gan ddefnyddio cyfrifiadur, llechen neu ffôn symudol.​​​​  


Mae'r Tîm I Mewn i Waith yn rhoi cymorth digidol i gwblhau cais ar gyfer Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. 

Rhoddir y cymorth mewn pedwar lleoliad hyb o ddydd Llun i ddydd Gwener 10am i​ 4pm: 
 
  • Hyb y Llyfrgell Ganolog 
  • Hyb Grangetown 
  • Hyb Llaneirwg 
  • Hyb Trelái  


I drefnu apwyntiad, cysylltwch â We Are Digital o Ddydd Llun i Ddydd Gwener 9am i 6pm​. ​

​E-bost: ​​visa@we-are-digital.co.uk  
Ffôn: 03333 445 675  

Gallwch hefyd gysylltu â'r Gwasanaeth ​​i Mewn i Waith i gael cyngor ar ba ddogfennau sy'n ofynnol drwy ffonio 029 2087 1071.​​​

Meini prawf ar gyfer y dyddiad cau hwyrach a ‘seiliau rhesymol' dros beidio â gwneud cais erbyn y dyddiad cau

Mewn rhai achosion, gallwch wneud cais o hyd ar ôl 30 Mehefin 2021.

Er enghraifft, os ydych yn ymuno ag aelod o'r teulu a oedd yn byw yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020, bydd eich dyddiad cau yn seiliedig ar pryd y byddwch yn cyrraedd y DU, cyn belled â:

  • roeddech chi’n aelod o'r teulu erbyn 31 Rhagfyr 2020 (nid yw hyn yn berthnasol i blant a anwyd neu a fabwysiadwyd ar ôl y dyddiad hwn)
  • bod y berthynas deuluol yn dal i fodoli ar adeg gwneud cais


Gallwch hefyd wneud cais os gallwch ddangos 'seiliau rhesymol' (fel rhesymau meddygol, neu ddioddef cam-drin domestig) pam na wnaethoch gais erbyn 30 Mehefin 2021.

’Gwiriwch a allwch wneud cais o hyd i'r Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd, gan gynnwys enghreifftiau pellach o'r hyn sy'n cyfrif fel sail resymol dros beidio â gwneud cais erbyn y dyddiad cau.

Os oes gennych statws preswylydd cyn-sefydlog eisoes


Os gwnaethoch gais i’r Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE a chael statws preswylydd cyn-sefydlog, mae angen i chi wneud cais am statws preswylydd sefydlog cyn i'ch statws preswylydd cyn-sefydlog ddod i ben.

Bydd statws preswylydd sefydlog yn gadael i chi aros yn y DU cyhyd ag y mynnwch. Fel arfer gallwch wneud cais am ddinasyddiaeth ar ôl i chi gael statws preswylydd sefydlog am 12 mis.

Gwiriwch beth fydd angen i chi ei wneud i wneud cais ar wefan GOV.UK​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd.

Os ydych yn aros am benderfyniad

Ar ôl i chi wneud cais, byddwch yn cael tystysgrif ymgeisio. Bydd y dystysgrif yn esbonio'r hyn y gallwch ei defnyddio ar ei gyfer tra byddwch yn aros am benderfyniad - er enghraifft, a allwch ei defnyddio i brofi eich hawl i weithio yn y DU.

Gwiriwch beth fydd angen i chi ei wneud ar ôl i chi gael penderfyniad​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd ar eich cais.


Mae'r ddogfen hon yn rhoi crynodeb o’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE yn seiliedig ar y canllawiau sydd ar gael ar hyn o bryd gan y Swyddfa Gartref a Llywodraeth y DU. Fe'i bwriedir fel canllaw cyfe​irio cyffredinol ac nid yw'n gyfystyr â chyngor cyfreithiol na chanllawiau ar gyfraith a pholisi mewnfudo. Roedd y wybodaeth yn y briff hwn yn gywir adeg ei chyhoeddi, fodd bynnag, sylwer bod y maes polisi hwn yn symud yn gyflym ac yn destun newid cyson, yn enwedig ar hyn o bryd wrth i'r DU negodi ei pherthynas â'r UE yn y dyfodol. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch diogelu eich statws mewnfudo yn y DU, ymgynghorwch ag ymgynghorydd mewnfudo a reoleiddir gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwasanaethau Mewnfudo. Cofiwch holi a yw'r ymgynghorydd yn codi ffi am ei wasanaeth. 



​​​​​​ ​
© 2022 Cyngor Caerdydd