Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Y weledigaeth ar gyfer Caerdydd

Yn gryno, bydd ein Strategaeth ar gyfer y deng mlynedd nesaf yn:

 

  • sicrhau bod ysgolion yn y lleoedd priodol, o'r maint priodol, yn cael eu hariannu'n briodol ac yn adeiladau i'r 21ain Ganrif gyda chyflesterau TGCh ardderchog ac addas at y diben
  • darparu gwasanaethau integredig effeithlon ac effeithiol, yn cyfuno ysgolion Babanod ac Iau a sefydlu ysgolion uwchradd sy'n cynnig cwricwlwm 14 - 19 oed cynhwysfawr
  • canolbwyntio ar leihau'r cysylltiad rhwng anfantais a chyflawniad addysgol
  • ateb y cynnydd yn y galw am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ledled Caerdydd ar gyfer ysgolion prif ffrwd ac Ysgolion Arbennig a mynd i'r afael â lleoedd gwag
  • hyrwyddo cydweithio, rhwydweithio a datblygiad ‘Cymunedau Dysgu'
  • gwneud ysgolion yn ganolbwynt eu cymunedau a rhannu'r cyfrifoldeb am holl blant a phobl ifanc yr ardal
  • codi safonau addysg drwy ddefnyddio technoleg newydd a dulliau addysgu arloesol

 

Bydd argymhellion allweddol ein Rhaglen yn:

 

  • lleihau nifer y lleoedd gwag a chreu arbedion a gaiff eu hail-fuddsoddi mewn addysg
  • creu lleoedd cyfrwng Cymraeg ychwanegol
  • creu lleoedd ychwanegol mewn nifer fach o ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg mewn ymateb i'r cynnydd yn y boblogaeth
  • lleihau costau gwaith cynnal a chadw sylweddol sydd wedi cronni
  • creu darpariaeth gynradd 3-11 oed ym mhob ysgol yng Nghaerdydd
  • uwchraddio ysgolion uwchradd a chynradd i gyrraedd safonau'r 21ain ganrif o ran addysgu a dysu
  • darparu ysgolion cynaliadwy effeithlon yn unol â Strategaeth Carbon Ysgafn Caerdydd
  • estyn y cyfleoedd i gyfuno ysgolion a lle y bo'n briodol gwasanaethau integredig i atgyfnerthu ffocws cymunedol ysgolion 

 

© 2022 Cyngor Caerdydd