Mae'n rhaid i ysgolion yng Nghymru fod mewn cyflwr da ac yn addas i gyflwyno addysg y 21ain Ganrif.
Mewn rhai achosion, gellir moderneiddio, atgyweirio, adnewyddu, ehangu ac ail-adeiladu ysgolion yn rhannol i gyflawni'r safonau sydd eu hangen ar gyfer addysgu a dysgu cyfoes.
Fodd bynnag, nid yw rhai ysgolion yn y lleoedd priodol bellach, neu maent yn gwneud colled. Felly mae'n bosibl y byddwn yn cynnig codi ysgolion newydd neu newid ysgolion presennol.
Bydd Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn cynnwys cymysgedd o'r hen a'r newydd, yn unol ag anghenion lleol a barn y staff, disgyblion a rhieni. Dylai'r safonau ansawdd a gymhwysir ledled Caerdydd sicrhau bod pob ysgol, boed yn newydd neu beidio, yn amgylchedd ardderchog ar gyfer addysgu a dysgu ar ôl buddsoddi ynddi.