Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Derbyniadau i ysgolion cynradd

​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​Mae plant yn dechrau yn y Dosbarth Derbyn yn y mis Medi wedi eu pen-blwydd yn bedair oed. Bydd rhieni plant sydd mewn meithrinfa ysgol yng Nghaerdydd yn derbyn manylion y broses o wneud cais.

Gallwch wneud cais am le mewn dosbarth derbyn mewn unrhyw ysgol gynradd yng Nghaerdydd. 

Gwasanaethir pob ardal o Gaerdydd gan ysgol gynradd gymunedol Gymraeg, ysgol gynradd gymunedol Saesneg, Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru ac Ysgol Gynradd Gatholig.   

Nid oes angen i chi siarad Cymraeg na Saesneg adre, neu ddilyn ffydd benodol i wneud cais am le mewn unrhyw un o'r ysgolion hyn.  

Gallwch gweld manylion eich ysgolion agosaf a dalgylchoedd gan ddefnyddio'r tab Ysgolion Agosaf (Y pellterau uniongyrchol ac nid y llwybrau cerdded diogel fydd y pellterau).​

Mae ceisiadau wedi cau. Os ydych chi wedi methu’r dyddiad cau i wneud cais am le derbyn​ i ddechrau ym mis Medi 2024, cwblhewch gais hwyr.

Cwblhewch y ffurflen gais hwyr


Gallwch ymgeisio am ysgolion ffydd yn uniongyrchol gyda’r ysgol.​​

 

 Gweld rhestr o ysgolion ffydd yng Nghaerdydd (545kb PDF).​
 

Am rhagor o wybodaeth am dderbyniadau, darllenwch y llyfryn derbyn i ysgolion (6.9mb PDF)​​.


Addysg Gymraeg

Mae addysg Gymraeg ar gael i bawb, pa bynnag iaith rydych yn ei siarad gartref. 

Mae teuluoedd o bob math yn elwa ar addysg Gymraeg: teuluoedd nad ydyn nhw’n siarad Cymraeg a rhai sydd yn ei siarad hi, teuluoedd o bob math o gefndir ethnig a chrefyddol, teuluoedd o Gymru a’r rhai sydd wedi symud yma o rywle arall. 

Mae addysg Gymraeg yn galluogi plant i ddod yn gwbl rugl yn y Gymraeg a’r Saesneg. Gall roi cyfleoedd, profiadau a sgiliau ychwanegol i'ch plentyn.

Y Broses ymgeisio

Os ganed eich plentyn rhwng 1 Medi 2019 a 31 Awst 2020
​​​​​Dyddiad​​​​Cam yn y broses ymgeisio
Dydd Llun 13 Tachwedd 2023
Y broses o wneud cais i ddechrau mewn Dosbarth Derbyn ym mis Medi 2024 yn cychwyn​.
Dydd Llun 8 Ionawr 2024
​Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd angen i unrhyw gais newydd gael ei wneud ar bapur a bydd yn cael ei ystyried
yn gais hwyr.​
​Chwefror i Ebrill 2024
​​Caiff ffurflenni eu prosesu a’u hasesu yn erbyn y Meini Prawf Derbyn priodol. Mae hyn hefyd yn cynnwys gwirio a dilysu’r cyfeiriad a’r wybodaeth ategol rydych wedi’u rhoi i ni.​​
Dydd Mawrth 16 Ebrill 2024 ​
​Diwrnod y Cynnig. Bydd e-bost yn cael ei anfon atoch ar ôl 10am. Os gwnaed cais amdano, bydd llythyr yn cael ei anfon atoch yn y post ar ôl 10am. Nodwch mai dim ond ar ôl 12 canol dydd ar y diwrnod cynnig y gellir rhoi penderfyniadau dros y ffôn.​
Dydd Mawrth 30 Ebrill 2024
​Dyddiad olaf i chi dderbyn neu wrthod y lle a gynigiwyd gennym. Rydym yn cadw’r hawl i dynnu cynigion yn ôl os nad ydym wedi cael ymateb erbyn y dyddiad hwn. Dyma’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau hwyr hefyd.
​Mehefin 2024

Ceisiadau (hwyr) yr ail rownd yn cael eu prosesu a’u hasesu.
​Gorffennaf 2024
​Canlyniadau’r ail rownd yn cael eu hanfon allan yn y post. Bydd pob rownd arall yn cael ei phrosesu’n fisol o nawr ymlaen. ​
​Medi 2024 ​
​Plant yn dechrau yn yr ysgol yn llawn amser​.​

​​

Derbyniadau Cydlynol


Yr ysgolion ffydd sy'n rhan o'r cynllun derbyniadau cydlynol yw: 

  • Ysgol Gynradd Yr Eglwys yng Nghymru Yr Holl Seintiau, 
  • Ysgol Gynradd Yr Eglwys yng Nghymru Esgob Childs, 
  • Ysgol Gynradd Gatholig Crist y Brenin, 
  • Ysgol Gynradd Gatholig y Teulu Sanctaidd, 
  • Ysgol Gynradd Gatholig Sant Alban, 
  • Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Bernadette, 
  • Ysgol Gynradd Gatholig Cadog Sant, 
  • Ysgol Gynradd Gatholig Sant Cuthbert, 
  • Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Dewi Sant, 
  • Ysgol Gynradd Yr Eglwys yng Nghymru Sain Ffagan, 
  • Ysgol Gynradd Gatholig Sant Ffransis, 
  • Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseff, 
  • Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru’r Forwyn Fair, 
  • Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair, 
  • Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Santes Monica, 
  • Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru’r Sant Paul, 
  • Ysgol Gynradd Gatholig Sant Pedr, 
  • Ysgol Gynradd Gatholig Sant Philip Evans, 
  • Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Tredegarville.






Cysylltu â ni​

Os oes gennych chi gwestiwn neu os hoffech chi ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar-lein:

​​Neu ffoniwch C2C ar 029 2087 2088.







© 2022 Cyngor Caerdydd