Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Bwlio, Troseddau Casineb, Digwyddiadau Casineb ac Aflonyddu

​​​​​​Bwlio​

Mae bwlio yn effeithio ar dros hanner pobl ifanc y DU.

Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i gael gwared ar bob math o fwlio, ymddygiad gormesol ac aflonyddu.

Mae Caerdydd yn diffinio bwlio fel a ganlyn:

“Ymddygiad gan unigolyn neu grŵp, sy'n cael ei ailadrodd yn raddol dros gyfnod, sy'n niweidio eraill yn fwriadol, naill ai'n gorfforol neu'n emosiynol."

Mae gan bob aelod o'r gymuned yr hawl i weithio a dysgu heb ofni bwlio neu aflonyddu o unrhyw fath gan gynnwys erledigaeth rywiol neu hiliol. Mae canlyniadau niweidiol bwlio, troseddau casineb, digwyddiadau casineb ac aflonyddu yn peri pryder i bawb sy'n ymwneud ag addysg yn yr Awdurdod. Bydd y straen i'r rhai sy'n dioddef bwlio ag effaith bellgyrhaeddol ar eu datblygiad personol a chymdeithasol yn ogystal ag effaith sylweddol ar eu cyflawniad addysgol a chyflawniadau addysgol eu cyfoedion.

Mae'n hanfodol bod pobl ifanc yn teimlo'n ddiogel ac yn hyderus yn yr ysgol ac yn eu cymunedau ac mae'n bwysig eu bod yn cael y canllawiau a'r cymorth cywir. Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn dioddef bwlio, mae'n bwysig dweud wrth rywun amdano. Rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â'r ysgol ac yn siarad ag athro neu oedolyn yr ydych yn ymddiried ynddo.

Os yw eich plentyn yn cael ei fwlio​

Efallai na fydd eich plentyn yn dweud wrthych ei fod yn cael ei fwlio, ond gall arddangos symptomau fel:

  • Pen tost
  • Gorbryder
  • Iselder
  • Anniddigrwydd
  • Blinder
  • Gostyngiad mewn Archwaeth
  • Peidio ag eisiau mynd nôl i'r ysgol


Ceisiwch siarad â'ch plentyn os yw'n ymddwyn fel hyn neu os yw'n ymddwyn yn wahanol i'w gymeriad arferol a'ch bod yn amau ei fod yn cael ei fwlio. Ceisiwch siarad â'ch plentyn am ei gynnydd, ei ffrindiau, amser cinio ac egwyliau yn yr ysgol, ac unrhyw broblemau neu anawsterau y mae'n eu hwynebu.

Gall fod yn ofidus iawn darganfod bod eich plentyn yn cael ei fwlio ond ceisiwch siarad yn dawel ag ef/â hi am yr hyn y mae'n mynd drwyddo.

Gwnewch nodyn o unrhyw fanylion y mae'n eu darparu megis – pwy oedd yn rhan o'r bwlio; ble, pryd a pha mor aml y mae'n digwydd?

Rhowch sicrwydd i'ch plentyn ei fod yn gwneud y peth iawn trwy ddweud wrthych, gan y gallai fod yn anodd iddo siarad am y peth.

Dywedwch wrth eich plentyn i roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau pellach i athro ar unwaith a siaradwch ag athro eich plentyn am y bwlio.

Siarad â'r Athro/Ysgol​​

Yn ôl y gyfraith, mae'n ofynnol i bob ysgol gael polisi gwrth-fwlio a ddefnyddir i leihau ac atal bwlio yn yr ysgol. Mae pob ysgol yn cyhoeddi ei pholisïau gwrth-fwlio ar wefan yr ysgol, neu gellir gofyn amdanynt gan yr ysgol. Cewch wybod beth yw polisi gwrth-fwlio'r ysgol er mwyn i chi wybod beth i'w ddisgwyl ganddynt.

Efallai nad yw'r ysgol yn ymwybodol bod eich plentyn yn cael ei fwlio.

Peidiwch â chynhyrfu a rhowch fanylion penodol am yr hyn mae eich plentyn yn ei ddweud am yr hyn sydd wedi digwydd – rhowch enwau, dyddiadau a lleoedd.

Nodwch pa gamau y bydd yr ysgol yn eu cymryd a phwy yr ydych wedi siarad â nhw. A gofynnwch a allwch chi wneud unrhyw beth i helpu.

Cadwch mewn cysylltiad â'r ysgol a rhowch wybod i'r staff os yw'r broblem yn parhau neu os yw'r sefyllfa'n gwella.

Os ydych wedi cysylltu â'r ysgol ac nad yw'r bwlio'n dod i ben, neu os nad ydych yn hapus â'r ffordd y mae'r ysgol yn delio ag ef, dyma sawl sefydliad sy'n cynnig cyngor a gwybodaeth i helpu i fynd i'r afael â bwlio:

Troseddau Casineb a Digwyddiadau Casineb​​

Diffinnir trosedd casineb fel unrhyw drosedd y mae'r dioddefwr neu unrhyw berson arall yn ystyried ei bod yn cael ei hysgogi gan elyniaeth neu ragfarn yn seiliedig ar hil neu hil ganfyddedig person; crefydd neu grefydd canfyddedig person; cyfeiriadedd rhywiol neu gyfeiriadedd rhywiol canfyddedig person; anabledd neu anabledd canfyddedig person; ac unrhyw drosedd sy'n cael ei hysgogi gan elyniaeth neu ragfarn yn erbyn person sy'n drawsryweddol neu yr ystyrir iddo fod yn drawsryweddol."

Digwyddiad casineb yw unrhyw ddigwyddiad y mae'r dioddefwr, neu unrhyw berson arall, yn ei ystyried yn rhagfarn tuag at unigolyn, oherwydd un neu fwy o'i nodweddion gwarchodedig.

Os ceir achos o drosedd casineb neu ddigwyddiad casineb, mae'n bwysig rhoi gwybod amdano i'r heddlu.

Gellir adrodd yn uniongyrchol i'r heddlu neu drwy Cymorth i Ddioddefwyr. Gellir rhoi gwybod am droseddau a digwyddiadau casineb yn y ffyrdd canlynol:

Aflonyddu​

Mae aflonyddu'n sylw diangen sy'n sarhaus neu sy'n bygwth neu'n bychanu person. Gall hyn gynnwys defnyddio geiriau llafar neu ysgrifenedig neu gam-drin.

Gall sylw diangen gynnwys:

  • geiriau llafar neu ysgrifenedig
  • e-byst sarhaus
  • twîts neu sylwadau ar wefannau a'r cyfryngau cymdeithasol
  • delweddau a graffiti
  • ystumiau corfforol
  • mynegiannau'r wyneb
  • tynnu coes sy'n sarhaus i chi

Gall aflonyddu effeithio'n uniongyrchol ar les meddyliol a chorfforol person ifanc a gall effeithio'n andwyol ar ei allu i gyflawni ei botensial.

Aflonyddu Rhywiol

Mae aflonyddu rhywiol yn fath o wahaniaethu anghyfreithlon dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Diffinnir aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion fel a ganlyn: Ymddygiad parhaus nas dymunir o natur rywiol gan blentyn tuag at blentyn arall sy'n gallu digwydd ar-lein ac all-lein. Mae aflonyddu rhywiol yn debygol o droseddun yn erbyn urddas plentyn a/neu wneud iddo deimlo dan fygythiad, wedi'i ddiraddio neu'i fychanu a/neu greu amgylchedd gelyniaethus, sarhaus neu rywiol. (Adran Addysg, 2021)

Yn eu gwaith gyda disgyblion (Profiadau o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith disgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru, Rhagfyr 2021), diffiniodd Estyn aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion fel a ganlyn:

  • Gwneud sylwadau neu jôcs rhywiol naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein
  • Codi sgertiau neu dynnu llun o dan ddillad rhywun heb i'r person wybod
  • Gwneud sylwadau cas am gorff, rhyw, rhywioldeb neu olwg rhywun i'w fychanu, ei ofidio neu'i ddychryn
  • Cam-drin yn seiliedig ar ddelwedd, fel rhannu llun neu fideo noeth/lled-noeth heb ganiatâd y person yn y llun
  • Anfon ffotograffau/fideos rhywiol, cignoeth neu bornograffig nas ddymunir at rywun

Ymddygiad rhywiol gan blant a phobl ifanc dan 18 oed sy'n amhriodol yn ddatblygiadol, a allai fod yn niweidiol tuag atynt eu hunain neu at bobl eraill, neu'n sarhaus tuag at blentyn, person ifanc neu oedolyn."

Gwybodaeth ac adnoddau sy'n ymwneud ag aflonyddu rhywiol mewn addysg:

Adroddiad Estyn: "Dydyn ni ddim yn dweud wrth ein hathrawon" Profiad o aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith disgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru:


Datganiad ysgrifenedig Llywodraeth Cymru: Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion mewn lleoliadau addysg

Canllaw​ Hawliau, Parch a Chydraddoldeb i Ysgolion

Mae Cyngor Caerdydd wedi cynhyrchu ​canllaw Hawliau, Parch a Chydraddoldeb statudol (810kbs PDF)​ ​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd i roi cyngor er mwyn galluogi i werthoedd parch, goddefgarwch a charedigrwydd gael eu hymgorffori yn ein hysgolion ac ar draws y gymuned ehangach. Dim ond trwy gydweithio y gallwn gyflawni hyn a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Mae’r wybodaeth yn y ddogfen hon wedi’i dylunio i’w hargraffu ac efallai na fydd modd gweld popeth ar-lein.


Chanllawiau Cymorth Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu amrywiaeth o ganllawiau a gwasanaethau. Cliciwch ar y dolenni perthnasol isod i gael gwybodaeth a chanllawiau:

Rhieni a Gofalwyr

Plant a Phobl Ifanc

Ysgolion

 

© 2022 Cyngor Caerdydd