Caiff disgyblion cynradd ac uwchradd brydau ysgol am ddim os yw eu teulu’n cael:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n Gysylltiedig ag Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
- Elfen Gwarant Credyd Pensiwn y Wladwriaeth
- Credyd Treth Plant ag incwm blynyddol sy’n llai na £16,190
- Credyd Cynhwysol os mae enillion net y teulu yn llai na £7400
*Ni all teuluoedd sy’n cael Credyd Treth Gwaith fanteisio ar brydau ysgol am ddim.
Unwaith rydych wedi danfon cais i mewn, byddwch yn cael eich hysbysi yn ysgrifenedig o’r canlyniad.
Os ydych chi’n gymwys am brydau ysgol am ddim, caiff ysgol eich plentyn ei hysbysu fel y gall ddiweddaru ei gofnodion.
Caiff prydau ysgol am ddim eu dyfarnu i bob plentyn ar wahân ac nid i’r cartref.
Nid oes angen i chi ailymgeisio os yw eich plentyn yn symud i ysgol arall yn y fwrdeistref. Pan gawn ein hysbysu gan ysgol newydd eich plentyn ei fod yn ddisgybl yno, byddwn yn diwygio ein cofnodion ac yn hysbysu’r ysgol o’ch cymhwysedd.
Newidiadau o 1 Ebrill 2019
Bydd unrhyw ddisgybl sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ar 1 Ebrill 2019 yn dal yn gymwys hyd at 31 Rhagfyr 2023, hyd yn oed os bydd eu hamgylchiadau'n newid. Gelwir hyn yn amddiffyn wrth bontio.
Os yw disgybl yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim o dan feini prawf newydd Credyd Cynhwysol o 1 Ebrill 2019, byddant hefyd yn dal yn gymwys hyd at 31 Rhagfyr 2023, hyd yn oed os bydd eu hamgylchiadau'n newid.
Pan fydd Credyd Cynhwysol wedi'i gyflwyno, bydd y disgyblion hyn yn parhau i gael prydau ysgol am ddim nes iddynt adael eu cyfnod ysgol presennol. Er enghraifft, tan ddiwedd yr ysgol gynradd neu uwchradd.
O 1 Ionawr 2024 ni fydd dyfarniadau newydd ar gyfer prydau ysgol am ddim yn cael eu diogelu, a gallai unrhyw newidiadau i amgylchiadau effeithio ar gymhwysedd.
I gael rhagor o wybodaeth am brydau ysgol am ddim neu laeth am ddim.
Cysylltu â ni
Ffôn: 029 2087 1071