Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cynllun Cyfnewid Cartrefi

Mae cyfnod clo Covid-19 wedi golygu bod ceisiadau wedi cronni. Rydym yn gweithio drwyddynt mor gyflym ag y gallwn, ond ar hyn o bryd mae oedi o 6-8 wythnos wrth brosesu ceisiadau newydd. 

Yn y cyfamser, a fyddech cystal â sicrhau eich bod wedi gwneud y canlynol:
  • Os ydych chi neu bartner cyfnewid yn denant cymdeithas dai a/neu'n denant sy'n byw y tu allan i Gaerdydd, rhowch i ni lythyr neu e-bost gan eich  landlord i ddweud eu bod yn bwrw ymlaen â chyfnewidiadau ar hyn o bryd​
  • ​Gwnewch yn siŵr bod eich cyfrif rhent yn cael ei glirio 
  • Gwnewch yn siŵr bod eich eiddo mewn cyflwr da i'w archwilio Bydd pob arolygiad yn cael ei gynnal drwy WhatsApp felly gwnewch yn siŵr bod yr ap hwn wedi'i lawrlwytho ar eich ffôn clyfar.  Os nad oes gennych ffôn clyfar, rhowch wybod i ni pan fyddwch yn gwneud cais i gyfnewid.



HomeSwapper yw cynllun cyfnewid tai mwyaf y Deyrnas Unedig ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol sydd am gyfnewid cartrefi. 

Mae gwasanaeth HomeSwapper ar gael am ddim i holl denantiaid Cyngor Caerdydd a thenantiaid yr holl Gymdeithasau Tai sy’n cymryd rhan. 

I ddod o hyd i dŷ i’w gyfnewid, cofrestrwch yn www.homeswapper.co.uk. Bydd HomeSwapper yn chwilio am gartrefi addas bob diwrnod ac yn anfon negeseuon atoch drwy e-bost neu neges destun. 

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan HomeSwapper neu ffoniwch ni ar 029 2053 7522​.​

​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd