Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cyflwr Gosodiadau Trydanol

​​​Ar hyn o bryd, rydym yn rhoi blaenoriaeth i argyfyngau neu waith atgyweirio brys ar dai cyngor. Os oes angen i chi gysylltu â ni ynghylch argyfwng/gwaith trwsio brys ffoniwch 029 2087 2088.

​Os ydych yn rhoi gwybod am argyfwng/atgyweiriad brys a’ch bod yn hunanynysu neu wedi cael prawf coronafeirws positif rhowch wybod i ni pan fyddwch yn cysylltu â ni.

​Os oes gennych apwyntiad ar gyfer gwaith trwsio brys, rhowch wybod i ni ymlaen llaw os ydych wedi cael prawf Covid19 positif neu os ydych yn dangos symptomau drwy ffonio 02920872087​​









Cyflwr Gosodiadau Trydanol yn cael eu cyflwyno i nifer o eiddo’r Cyngor.  Mae hyn yn cynnwys rhoi prawf ar y gwifrau a ffitiadau trydan yn y tŷ i weld a oes unrhyw ôl traul neu ddifrod  arnynt.



Y tri phrif berygl ynghlwm wrth drydan yn y cartref yw sioc trydanol, tân a llosgiadau. 

Gall hyn ddigwydd drwy: 

  • Y gosodiadau trydanol a’r offer yn dirywio dros amser. 
  • Difrod i switsys, socedi ac offer arall. 
  • Camddefnyddio gosodiadau ac offer. 
  • Diffyg gwaith cynnal a chadw’r gosodiadau a’r offer. 
  • Fandaliaeth 

Pethau y mae’n rhaid i chi eu gwybod​


Fel arfer mae profion yn para am rhwng dwy a thair awr ac mae angen gallu cyrraedd pob rhan o’ch eiddo.

  • Does dim rhaid cynnal profion ym mhob eiddo eleni
  • Caiff y profion i gyd eu cynnal gan Drydanwyr a Chontractwyr Cymeradwy a Chymwys.
  • Bydd Gweithredwyr a Chontractwyr y Cyngor bob amser yn cario cardiau adnabod a byddant yn eu dangos ar gais.
  • Os ydych yn ansicr, gallwch wirio drwy ffonio C2C ar 029 20872088  
  • Nid oes angen i chi gysylltu â Chyngor Caerdydd na’i Gontractwyr oni bai eich bod yn derbyn llythyr neu alwad ffôn. 
  • Mae’n bwysig eich bod chi’n cadw at yr apwyntiad neu’n ffonio i ad-drefnu. 
  • Gwnewch yn siŵr bod gennych gredyd digonol ar unrhyw fesurydd talu ymlaen llaw.
  • Symudwch unrhyw eiddo personol o unrhyw gwpwrdd mesurydd.
  • Caniatewch i’r trydanwr gyrraedd pob rhan o’ch cartref adeg y prawf.



Gall apwyntiadau a gollwyd arwain at oedi yn y rhaglen ar eich cyfer chi ac ar gyfer tenantiaid eraill. Gall hyn arwain at gamau cyfreithiol yn cael eu cymryd i gael mynediad i’r eiddo er mwyn cynnal archwiliad, a allai arwain at ddim mynediad a chostau cyfreithiol yn cael eu codi arnoch.
​​​​​​

Pam mae angen i ni gyflawni’r profion hyn? 


Yn gyfreithiol, mae’n rhaid i landlordiaid sicrhau bod eu heiddo rhent ac unrhyw offer trydanol a ddarperir, yn ddiogel cyn i’r denantiaeth ddechrau a thrwy gydol y denantiaeth. 

Mae’n rhaid i landlord sicrhau bod: 

  • Yr eiddo’n addas i bobl fyw ynddo ar ddechrau’r denantiaeth
  • Yr eiddo’n cael ei gadw mewn cyflwr addas i bobl fyw ynddo yn ystod y denantiaeth 


Mae’n rhaid i landlordiaid sicrhau bod popeth yn gweithio, ac atgyweirio:

  • ​Gosodiadau yn yr eiddo sy’n cyflenwi dŵr, nwy a thrydan, yn ogystal â glanweithdra 
  • Cynhesu gofod a chynhesu dŵr 


Mae Deddf Atebolrwydd Meddianwyr 1957 a Deddf Atebolrwydd Meddianwyr 1984 yn rhoi dyletswydd gofal ar landlordiaid ar gyfer unrhyw un sy’n ymweld â’u heiddo. 

Gellid erlyn landlord os caiff rhywun ei anafu ar ei dir neu safle – ni waeth a yw’r ymwelydd yno’n gyfreithlon (Deddf 1957) neu’n tresmasu (Deddf 1984). 

O 2017 ymlaen, mae Polisi Diogelwch Trydanol Cyngor Caerdydd yn ei gwneud hi’n ofynnol i bob annedd domestig gael ei brofi bob 10 mlynedd ar gyfer eiddo wedi’i ailwefru a phob 5 mlynedd ar gyfer gosodiadau hŷn neu pan newidir Tenantiaeth. 

  • Os ydych wedi symud i eiddo yn ddiweddar, a bod yr eiddo’n wag cyn i chi symud iddo, bydd wedi’i brofi 
  • Os gwnaethoch symud i’r eiddo yn rhan o gyfnewidiad, bydd eich swyddog ymweld a ymdriniodd â’ch cyfnewidiad wedi’ch hysbysu i ffonio C2C i drefnu cynnal prawf trydanol newydd.   
​​
© 2022 Cyngor Caerdydd