Rhowch wybod i ni bob tro. Os ydych yn ei chael hi’n anodd talu eich rhent, cysylltwch â ni ar unwaith ar 029 2053 7350 neu ewch i un o’n Hybiau neu Swyddfeydd Tai.
Gall eich Swyddog Cyllid eich helpu chi gyda’r canlynol:
gwneud cais am Fudd-dal Tai
cyngor ar fudd-daliadau lles eraill
help i reoli eich dyledion.
.
Os nad ydych yn cysylltu â’ch Swyddog Cyllid neu’n peidio â thalu’r rhent, byddwn yn anfon llythyr atoch i esbonio’r sefyllfa a beth fydd yn digwydd nesaf.
Gallwch gael rhagor o help a chyngor ar ôl-ddyledion rhent ar wefan Tai Caerdydd.
Beth fydd yn digwydd os nad ydw i’n talu?
Os nad ydym yn clywed gennych neu os na fyddwn yn derbyn unrhyw daliad, bydd y Swyddog Cyllid yn ymweld â’ch cartref. Yn ystod yr ymweliad hwn bydd y Swyddog Cyllid yn trafod eich ôl-ddyledion ac yn cynnig cyngor ynghylch hawlio Budd-dal Tai. Os nad ydych yn gallu clirio eich dyled mewn un taliad gall eich Swyddog Cyllid drefnu eich bod yn ad-dalu eich ôl-ddyledion fesul symiau wythnosol rhesymol.
Terfynu eich tenantiaeth
Os nad ydych yn gwneud trefniadau i ad-dalu’r rhent a bod eich ôl-ddyledion yn parhau i gynyddu, gallwn gyflwyno hysbysiad cyfreithiol i chi i derfynu eich tenantiaeth.
Bydd cyfle gennych i apelio yn erbyn yr hysbysiad hwn. Bydd gofyn i chi fynd i gyfarfod panel adolygu rhent i ddatgan eich achos. Os yw’r ôl-ddyledion yn parhau o hyd a bod yr apêl yn aflwyddiannus, byddwn yn gwneud cais i’r Llys Sirol i gymryd meddiant o’ch cartref.
Mynd i'r llys
Codir tâl arnoch am eich costau llys a chaiff y rhain eu hychwanegu at eich cyfrif rhent.
Bydd y barnwr yn ystyried eich achos a gall ddyfarnu un o’r gorchmynion canlynol:
Gorchymyn Ildio Meddiant
Mae’r gorchymyn hwn yn rhoi meddiant gwag o’ch cartref i’r Cyngor unwaith y daw’r gorchymyn i rym. Rhoddir 28 diwrnod i chi adael eich cartref fel arfer.
Os ydych yn denant rhagarweiniol (mae hyn fel arfer yn golygu eich bod yn 12 mis cyntaf eich tenantiaeth) dyma’r unig orchymyn y gall y barnwr ei roi.
Gorchymyn Ildio Meddiant Ataliedig
Mae’r gorchymyn hwn yn rhoi’r cyfle i chi dalu’r rhent casgladwy yn rheolaidd yn ogystal â rhywfaint o’r ôl-ddyledion. Caiff manylion symiau’r taliadau eu nodi yn y gorchymyn. Ar yr amod eich bod yn cydymffurfio â thelerau’r gorchymyn, ni fydd y Cyngor yn eich troi allan oherwydd ôl-ddyledion rhent.
Gorchymyn Ildio Meddiant Gohiriedig
Mae’r gorchymyn hwn yn rhoi’r cyfle i chi dalu’r rhent casgladwy yn rheolaidd yn ogystal a rhywfaint o’r ôl-ddyledion. Caiff manylion symiau’r taliadau eu nodi yn y gorchymyn. Ar yr amod eich bod y parhau i wneud y taliadau hyn, ni fyddwch yn colli eich cartref.
Fodd bynnag, oni chydymffurfir â thelerau’r gorchymyn, bydd y Cyngor yn ailgyflwyno’ch achos i’r Llysoedd a chaiff costau pellach eu hychwanegu at eich cyfrif. Cynhelir gwrandawiad pellach a gall y barnwr naill ai roi Gorchymyn Ildio Meddiant neu Orchymyn Ildio Meddiant Ataliedig.
A gaf fy nhroi allan os nad wyf yn talu fy rhent?
Os yw’r barnwr wedi dyfarnu Gorchymyn Ildio Meddiant Ataliedig ac nad ydych wedi cadw at delerau’r gorchymyn, neu os yw'r Llys wedi dyfarnu Gorchymyn Ildio Meddiant, gallwch chi a'ch teulu gael eich troi allan o'ch cartref.