Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cyfle Cyfartal

​Mae Cyngor Caerdydd yn ymrwymedig i hyrwyddo cyfle cyfartal ac amrywiaeth mewn cyflogaeth ac wrth ddarparu gwasanaeth. Fel sefydliad mawr yn y sector cyhoeddus, mae’n bwysig i ni ein bod yn cefnogi lles economaidd ein dinasyddion, a sicrhau bod ein gweithlu yn rhoi adlewyrchiad gwell o’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.    

Fel cyflogwr, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth.  Gan hynny, er nad yw’n ofynnol ar gyfer gwneud cais, rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion sydd wedi’u tangynrychioli, gan gynnwys y rheini:

  • dan 25 oed
  • nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant
  • o’n cymunedau lleol, gan gynnwys unigolion anabl, gofalwyr a’r rheini o gymuned Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig Caerdydd a chymuned LGBT+ Caerdydd yn arbennig
  • sy’n gallu cyfathrebu’n rhugl yn Gymraeg. 


Ni ddylai unrhyw ymgeisydd am swydd, cyflogai na defnyddiwr gwasanaeth gael ei drin yn llai ffafriol ar sail oedran, anabledd, hunaniaeth/ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth (gan gynnwys cyplau o’r un rhyw), hil, crefydd, cred neu ddiffyg cred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol a’r iaith Gymraeg.

Mynegai Stonewall 

 
Mae'r cyngor wedi derbyn 3 gwobr gan Stonewall: 
  • Cyflogwr Gwobr Aur Stonewall  
  • Un o 100 Cyflogwr Gorau Stonewall  
  • Grŵp Rhwydwaith Clod Uchel Stonewall 


Rhoddwyd y gwobrau i gydnabod Rhwydwaith Cydraddoldeb Cyflogeion LHDT y Cyngor. Cafodd Cyngor Caerdydd ei ganmol am ei waith i greu gweithle lle gall cyflogeion LHDTC+ fod eu hunain llawn yn y gwaith.  

Yn dilyn asesiad helaeth o waith y cyngor dros y 12 mis diwethaf, mae Stonewall wedi dyfarnu sgôr o 109 pwynt, cynnydd yn erbyn yr 82.5 pwynt yn 2022. Dysgwch fwy am Fynegai Stonewall a sut mae hyn yn cael ei sgorio​.  

Mae Cyngor Caerdydd bellach yn 2il yn y sector Llywodraeth a Rheoleiddio, a 10fed yn y Sector Cyhoeddus yn gyffredinol. 

Mae'r perfformiad gwych ym Mynegai Stonewall yn dyst i ymdrechion staff ar draws y sefydliad. 

Mae gweledigaeth Cryfach, Tecach, Gwyrddach ar gyfer Caerdydd yn gwneud ymrwymiad clir i ni adeiladu ar ein Statws Aur gan Stonewall fel rhan o'n hymrwymiad i sicrhau cynwysoldeb LHDTC+, gyda'r nod o fod yn un o 100 cyflogwr gorau Stonewall a'r awdurdod lleol â’r sgôr uchaf yng Nghymru ym Mynegai Stonewall.  
Fel Cyngor, yn ogystal ag ennill statws Aur eto, cael ein henwi yn y 100 uchaf a chael y sgôr uchaf ar gyfer unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru, ni hefyd yw’r awdurdod lleol gyda’r sgôr uchaf yn y DU.  

Mae Stonewall wedi cydnabod y cydweithio ar draws yr awdurdod lleol trwy gyflwyno’r statws 'Grŵp Rhwydwaith Clod Uchel'. Mae hyn yn gymeradwyaeth haeddiannol i'n Rhwydwaith Cydraddoldeb Cyflogeion LHDT+ sy'n cynnwys gweithwyr o bob rhan o wasanaethau'r Cyngor. ​


​​​
Rydyn ni'n Gyflogwyr Cyflog BywHyderus o ran anableddStonewall CymruDLIE RhwydwaithAnabledd Rhwydwaith LHDT RhwydwaithMenywood RhwydwaithGofalwyr Rhwydwaith 
 
© 2022 Cyngor Caerdydd