Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cerbydau Di-dreth

​​​​​Rhaid i bob cerbyd a gofrestrir yn y DU gael ei drethu os caiff ei ddefnyddio neu ei gadw ar ffordd gyhoeddus. Rydym yn clampio a symud (storio) cerbydau sydd heb eu trethu. 

Gallwch adrodd yn gyfrinachol am gerbyd heb ei drethu. Yna byddwn yn ymchwilio i weld a allwn gymryd camau gorfodi, er ei bod yn bwysig cofio efallai na fyddwn yn gallu am resymau cyfreithiol. 

​​A yw’r cerbyd wedi’i drethu? Gallwch wirio hyn trwy fynd i wefan DVLA​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd
    ​​

    Polisi Cerbydau heb ey Trethu (433kb PDF)​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd


    Os yw eich cerbyd wedi'i glampio neu wedi'i storio gan nad yw wedi’i drethu, bydd angen i chi drethu eich cerbyd yn gyntaf ac yna talu'r ffioedd perthnasol. 

    Mae'n rhaid i chi dalu 'ffi sicrwydd' (blaendal) os nad ydych yn trethu'r cerbyd cyn iddo gael ei ryddhau. Efallai y byddwch yn gallu hawlio'r ffi hon yn ôl.

    ​​​​Ffi ryddhau
    ​Ffi ryddhau o fewn 24 awr ar ôl y drosedd (o glampio i’r man ​​storio)​Rhyddhau: £100
    ​Ffi ryddhau ar ôl 24 o’r drosedd (o’r man storio)​​Rhyddhau: £200
    Storio: £21 y dydd neu ran o'r dydd yn y man storio
    ​​Math o gerbyd​Ffi sicrwydd
    ​Beiciau modur, ceir, cerbydau teithwyr y​sgafn a cherbydau nwyddau ysgafn​​£160
    ​Bysus, cerbydau nwyddau, cerbydau achub a cherbydau cludiant​£330
    ​​Cerbydau eithriadol megis lorïau mawr neu goetsis ​£700

    Bydd angen i chi ffonio 
    029 2233 0952 i wneud taliad rhwng 8am – 4.30pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Ar wahân i Wyliau Banc a Nadolig.

    Sylwer: Cardiau credyd neu ddebyd yn unig.




    Os ydych wedi talu ffi sicrwydd, gallwch hawlio arian yn ôl gan y Cyngor drwy gyflwyno derbynneb treth ddilys o fewn 15 diwrnod i ryddhau’r cerbyd yn gyfreithlon. Dim ond i’r sawl a dalodd yn wreiddiol y gellir talu’r ffi sicrwydd yn ôl. Nid yw datgan cerbyd fel SORN yn rhoi hawl i ad-daliad i chi.

    I hawlio ad-daliad bydd angen i chi anfon copi o'ch derbynneb treth a llythyr eglurhaol at:

    Cyngor Caerdydd
    Cerbydau heb eu Trethu
    Ystafell 301
    Neuadd y Sir
    CF10 4UW. 

    Rhowch eich enw, cyfeiriad dychwelyd a rhif cofrestru'r cerbyd neu ​plât cofrestru ar unrhyw ohebiaeth a anfonir atom. 
    Bydd angen i chi ffonio 029 2233 0952 i wneud taliad rhwng 8am – 4.30pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Ar wahân i Wyliau Banc a Nadolig.​
    Cardiau credyd neu ddebyd yn unig. 




    Unwaith y byddwch wedi talu'r ffioedd perthnasol, bydd un o swyddogion y Cyngor yn tynnu’r clamp. Byddwn yn ceisio tynnu’r clamp o fewn 2 awr i daliad glirio. 

    COs ydych yn credu bod eich cerbyd wedi cael ei symud, dylech ffonio'r Cyngor ar 029 2233 0952 rhwng 8am – 4.30pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Ar wahân i Wyliau Banc a Nadolig. 

    Byddwn wedyn yn rhoi gwybod i chi ym mha fan storio y mae’r cerbyd a sut i dalu. 

    Peidiwch â ffonio 999 gan mai dim ond ar gyfer y gwasanaethau brys y mae hwn. 

    Unwaith y byddwch wedi talu'r ffioedd perthnasol, byddwch yn cael derbynneb e-bost neu god trafod y bydd angen i chi fynd ag ef i'r man storio er mwyn cadarnhau bod y taliad wedi'i wneud.

    Bydd angen i chi fynd â'r canlynol gyda chi hefyd:

    • Dogfen gofrestru cerbyd V5C gyfredol 
    • ID ffotograffig dilys yn dangos eich cyfeiriad presennol megis trwydded yrru neu basbort
    • Cadarnhad eich bod naill ai bellach wedi trethu'r cerbyd neu eich bod wedi talu'r ffi sicrhau. 

    Rhaid i'r enw a'r cyfeiriad ar yr ID ffotograffig gyfateb i'r enw a'r cyfeiriad ar y ddogfen cofrestru cerbyd. Os nad yw'r enw a'r cyfeiriad yn cyd-fynd, efallai y bydd gofyn i chi ddarparu prawf ychwanegol megis datganiad cyfleustodau o fewn y 3 mis diwethaf i ddangos y newid cyfeiriad. 

    Os na allwch gynhyrchu V5C yna mae'n rhaid i chi hefyd ddarparu dogfennaeth sy'n eich cysylltu â'r cerbyd, megis bil gwerthu neu gytundeb prydles. Bydd gofyn i chi hefyd lenwi "V62 Cais am Dystysgrif Cofrestru" a thalu'r ffi briodol drwy siec neu archeb bost. Bydd y man storio cerbydau wedyn yn anfon y cais i’r DVLA. 

    Ni fydd y cerbyd yn cael ei ryddhau o dan unrhyw amgylchiadau os nad ydych yn cydymffurfio â'r uchod. 

    Os na fyddwch yn hawlio eich cerbyd o fewn yr amserlenni a ganiateir yna gellir ei ddinistrio neu ei werthu mewn arwerthiant. Bydd unrhyw eiddo yn y cerbyd ar yr adeg hon yn cael ei ddal am 14 diwrnod pellach i gael ei gasglu o'r man storio. Os na fydd yn cael ei gasglu yna bydd yn cael ei ddinistrio.  

    Yr unig adeg y gallech fod wedi herio'r cam gweithredu hwn yw pan oedd eich cerbyd wedi'i drethu'n gywir pan ddechreuodd y camau gorfodi, neu os nad ydym wedi dilyn y gweithdrefnau cywir fel y'u pennwyd gan Reoliadau Treth Car (Clampio, Symud Ymaith a Gwaredu Cerbydau) 1997. Nid oes unrhyw hawl arall i apelio.

    Os ydych yn credu bod yr uchod yn berthnasol, ysgrifennwch at: 

    Cyngor Caerdydd
    Cerbydau heb eu Trethu
    Ystafell 301
    Neuadd y Sir
    CF10 4UW. 

    Rhowch eich enw, cyfeiriad dychwelyd a rhif cofrestru'r cerbyd neu ​plât cofrestru ar unrhyw ohebiaeth a anfonir atom. 

    Os na fydd sail yr apêl yn cael ei bodloni, byddwn yn ysgrifennu atoch i esbonio pam. Os caiff ei bodloni yna byddwn yn rhoi ad-daliad am y swm priodol.  


    ​​Caiff unrhyw incwm dros ben a gynhyrchir drwy orfodi cerbydau di-dreth ond ei ddefnyddio at ddibenion penodol i gefnogi gwelliannau strydlun mewn perthynas â seilwaith, yr amgylchedd a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus.


    Rhoi gwybod am rywbeth


    ​​


    ​​​​ ​​ ​​​​​
    © 2022 Cyngor Caerdydd