Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Parcio a theithio

​​​​​Gweler y gwasanaethau parcio a theithio presennol sydd gan Gaerdydd i'w cynnig.   ​​​​​​


Parcio a theithio i'r ysbyty​​

Mae Bwrdd GIG Caerdydd a'r Fro yn darparu gwasanaeth parcio a theithio rhad ac am ddim yn Nwyrain Caerdydd sy'n rhedeg i Ysbyty Athrofaol Cymru ac oddi yno.

Mae'r maes parcio ar gael ar gyfer rhannu car a'r cyfeirnod sat nav yw CF23 8HH.​

Dim ond ar gyfer staff, cleifion ac ymwelwyr sy'n mynychu'r ysbyty y mae'r gwasanaeth yma ar gael.

Nid oes cyfyngiadau uchder cerbydau ar y safle. 

Mae gan y safle deledu cylch cyfyng ond mae cerbydau wedi parcio mewn perygl y perchennog.

Sut i gyrraedd​

O'r Dwyrain:
​​
  • dod oddi ar gyffordd 29 yr M4
  • cymerwch yr ail allanfa ar y gylchfan
  • dilynwch yr arwyddion ar gyfer maes parcio Parcio a Theithio.





O'r Gorllewin:
​​​​
  • dod oddi ar gyffordd 30 yr M4
  • Cymerwch y drydedd allanfa ar y gylchfan gyntaf 
  • cymerwch yr ail allanfa ar yr ail gylchfan. 
  • cymerwch yr ail allanfa ar y trydydd cylchfan, ar yr A48 sy'n mynd tuag at ganol y ddinas. 
  • i gymryd yr allanfa gyntaf ar yr A48 a dilyn arwyddion i'r maes parcio.







Oriau agor

Parcio a theithio i'r ysbyty​​​: oriau agor
Dydd Llun i Dydd Gwener
Dydd Sadwrn
6:25am i 9pm
7:30am i 9pm
​​

Mae'r safle yn cau yn fuan ar ôl i'r bws olaf gyrraedd, wedi i'r holl deithwyr adael. 
 
Ni allwch adael eich cerbyd dros nos ar y safle.​​​​

Parcio a theithio​ am digwyddiadau

Mae'r cyngor yn trefnu gwasanaethau parcio a theithio ar gyfer digwyddiadau mawr sy'n cael eu cynnal yn Stadiwm Principality.

© 2022 Cyngor Caerdydd