Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Trafnidiaeth gyhoeddus

​​​​Mae Traveline C​ymru​​​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd hefyd yn cynnig gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer mynd a dod yng Nghaerdydd gan gynnwys bysus a threnau.

 

Tocynnau Bws

 

Bydd yr holl ddinasyddion oedrannus a phobl anabl yn cael teithio am ddim ar wasanaethau bysus lleol ledled Cymru os oes ganddynt docyn dilys. 

 

Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun hwn ar wefan Llywodraeth Cymru​​​​​​​​​​​External link opens in a new window.

 

Gallech gael rhagor o wybodaeth am eich opsiynau o ran teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus ar wefan Cadw Caerdydd i Symud sydd â thudalennau penodol ar gyfer teithio ar drenau a bysus.

 

Tacsis

 

Mae llawer o safleoedd tacsis o gwmpas canol y ddinas lle gallwch gael tacsi trwyddedig.

 

Mae tacsis hacni yn ddu a gwyn neu'n debyg i rai Llundain.  Mae ganddynt arwydd tacsi ar y to a phlât trwydded ar gefn y cerbyd.  Dim ond tacsis hacni y gellir chwifio amdanynt o ochr y ffordd.

 

Ni ellir chwifio am dacsis llogi preifat ar ochr y ffordd a rhaid eu harchebu ymlaen llaw.  Nid oes ganddynt olau ar y to ac mae ganddynt blât trwydded ar gefn y cerbyd. 



Wedi gordalu am dacsi neu gael eich gwrthod gan un? 

Os ydych chi’n credu eich bod wedi talu gormod am dacsi neu fod ffi wedi cael ei gwrthod, rhowch:

  • rif y gyrrwr/car,
  • y dyddiad a'r amser,
  • y lleoliad, neu
  • fanylion y daith. 

Gwneud cwyn



Gwasanaethau eraill

 

Rhoi gwybod am loches bws wedi'i difrodi.


Rhoi gwybod am rywbeth

 


 

​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd