Mae’n drosedd i adael unrhyw gerbyd yn anghyfreithlon yn yr awyr agored neu ar y briffordd. Mae’r Cyngor yn gweithredu gwasanaeth i symud cerbydau wedi’u gadael dan Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005.
Pan fo rhywun yn rhoi gwybod am gerbyd fel un sydd wedi’i adael mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i sicrhau y gwneir pob ymdrech i gysylltu â pherchennog cyfreithiol y cerbyd. Mae hyn i gadarnhau bod y cerbyd wedi’i adael. Ni ellir gwneud trefniadau i symud neu waredu’r cerbyd nes y ceir gwybod am hyn.
Byddwn yn ceisio cysylltu â’r perchennog cofrestredig diwethaf trwy anfon llythyr yn gofyn iddo gysylltu â ni. Os na fydd y perchennog yn cysylltu â ni, gallwn symud y cerbyd ar ôl 7 diwrnod. Os hawlir cerbyd gan y perchennog cofrestredig, nid oes hawl gan y Cyngor i symud y cerbyd ac ni chymerir camau pellach.
Dylid adrodd am bob cerbyd heb dreth, neu gerbyd sydd wedi’i barcio ar ffordd gyhoeddus gyda Hysbysiad Oddi-ar-y-ffordd Statudol (HOS), yma yn lle hynny.
Nid yw’r cyngor yn symud cerbydau o dir preifat ar hyn o bryd oni bai bod y cais yn cael ei wneud gan berchennog y tir.
Os yw perchennog tir am i gerbyd gael ei symud oddi ar ei eiddo rhaid iddo'n gyntaf geisio olrhain perchennog y cerbyd. Gall perchennog y tir gysylltu â’r DVLA i ofyn iddynt olrhain perchennog y cerbyd. Os yw hyn yn aflwyddiannus gall perchennog y tir gysylltu â’r heddlu i gael gwybod a oes ganddynt ddiddordeb yn y cerbyd. Mae hawl gan perchennog y tir i symud y cerbyd.
Bydd y Cyngor yn symud cerbyd ar ran perchennog tir ar yr amod ei fod yn gallu dangos ei fod wedi gwneud pob ymdrech rhesymol i gysylltu â pherchennog y cerbyd (er enghraifft, dyfynnu rhif digwyddiad yr heddlu a rhoi copïau o unrhyw ohebiaeth i'r Cyngor). Rhaid rhoi holl ddogfennau’r Gofrestrfa Tir i’r Cyngor, gan gynnwys golwg a chynllun teitl y tir sydd ar y gofrestr.
Dylid anfon y manylion i
Abandonvehicles@caerdydd.gov.uk.