Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Mannau parcio i bobl anabl

​Os oes gennych anghenion symudedd arbennig, gallwch ofyn am fan parcio i bobl anabl y tu allan i’ch cartref.


Caiff y man parcio ei leoli mor agos â phosibl i’ch cartref gan ystyried nodweddion y ffordd, llif y traffig ac unrhyw gyfyngiadau eraill. Cewch unrhyw un y mae ganddynt Fathodyn Glas i bobl anabl  ddefnyddio’r man parcio.


 

Pwy all gyflwyno cais?

 Byddwn yn cymeradwyo eich cais os ydych yn bodloni’r holl amodau hyn:

 

  • Rydych chi neu rywun rydych yn byw ag ef ag anabledd parhaol ac â bathodyn glas
  • Rhaid i gerbyd a gyrrwr gael ei gofrestru yn y cyfeiriad
  • Heb fynediad at gyfleuster parcio oddi ar y stryd, e.e. tramwyfa neu lawr caled.
  • Heb fan parcio ar y stryd sydd o fewn 25 metr o’r tŷ

 

Bydd angen i chi fodloni o leiaf un o’r meini prawf canlynol hefyd:

 

  • Bod yn hŷn na 65
  • Bod yn llai na 65 ac yn derbyn Cyfradd Uwch Elfen Symudedd y Taliad Annibyniaeth Bersonol
  • Derbyn y Tâl Atodol Symudedd Pensiwn Rhyfel
  • Unrhyw amgylchiadau eraill y mae Cyngor Dinas Caerdydd yn eu hystyried yn eithriadol a gwerth eu hystyried

 

Rydym yn ystyried y bobl canlynol yn ffafriol: 

  •  y rheiny sydd ag anawsterau dysgu neu ymddygiadol na ellir eu gadael ar eu pen eu hunain wrth symud rhwng y cartref â'r cerbyd.
  • y rheiny sydd angen cymorth mecanyddol i symud, e.e. cadair olwyn, caliperau, offer prosthetig, offer codi arbennig, neu sydd angen cario cyflenwad o ocsigen.


Sut i gyflwyno cais


Os ydych yn credu eich bod yn bodloni'r gofynion a hoffech gyflwyno cais am fan parcio i bobl anabl, cysylltwch â ni i ofyn am ffurflen gais, a gaiff ei phostio atoch.

Unwaith y byddwn wedi derbyn eich cais, byddwn yn cysylltu â chi o fewn 8 wythnos​.
 

Faint bydd yn cymryd i gael y lle parcio?


Er ein bod yn ceisio ymdrin â phob cais cyn gynted â phosibl, mae’r broses yn cynnwys ymgynghori â gwahanol gyrff a gwneud Gorchmynion Rheoleiddio Traffig, felly gall gymryd hyd at 18 mis.
 

Beth os nad oes ei angen mwyach?


Caiff mannau parcio i bobl anabl eu hadolygu’n gyson i sicrhau bod angen amdanynt o hyd.

Os nad oes angen eich man parcio arnoch mwyach, cysylltwch â ni.

Cysylltwch â ni

​​
© 2022 Cyngor Caerdydd