Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Gorchmynion rheoleiddio traffig

​​​​​Mae gorchymyn rheoli traffig (GRhT) yn ddogfen gyfreithiol sy'n caniatáu i ni reoleiddio'r defnydd o'r briffordd.

Mae GRhT yn berthnasol i reoleiddio cyflymder, pwysau, symud a pharcio cerbydau, yn ogystal â rheoleiddio symudiadau cerddwyr a beicio.

Gweld ein gorchmynion rheoli traffig arfaethedig (GRhT).

Mae creu GRhT yn broses gyfreithiol hir a chostus, sy'n golygu y gallant yn aml gymryd rhwng 12 a 18 mis i'w cyflawni. Gall GRhT cymhleth gymryd mwy o amser.

Os oes angen i ni newid neu dynnu GRhT, rhaid i ni ddilyn yr un weithdrefn a ddefnyddiwyd gennym i greu'r GRhT​. 

Gofyn am orchymyn rheoli traffig (GRhT).​


Ar ôl i’r cynnig gael ei gyflwyno, mae’n rhaid cynnal ymgynghoriad. Bydd angen ceisio barn y Gwasanaethau Brys, Cymdeithasau Trafnidiaeth Gyhoeddus, Aelodau Ward Lleol a gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus lleol.

Os bydd cynnig yn cynnwys addasiadau i’r priffyrdd neu effaith sylweddol ar ddefnyddwyr ffordd gellir, lle y bo’n briodol, ymgynghori â grwpiau lleol â diddordeb fel preswylwyr, masnachwyr a grwpiau cymunedol y mae’r cynigion yn debygol o effeithio arnynt. Gall y cynnig gael ei ddiwygio ar ôl yr ymgynghoriad.​


Mae’r GRhT yn cael ei hysbysebu yn y wasg leol a thrwy Ddogfen ar Adnau. Gellir gweld y ddogfen hon yn swyddfeydd Cyfreithwyr y Ddinas yn Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd am hyd at dair wythnos o ddechrau hysbysebu’r cynnig. Byddwn yn gwneud pob ymdrech i arddangos hysbysiadau cyhoeddus ar unrhyw ffyrdd y gall y newidiadau effeithio arnynt a lle yr ystyrir ei bod yn briodol gwneud hynny.

Mae’n rhaid i unrhyw sylwadau ar y cynigion gael eu gwneud yn ysgrifenedig, gan nodi rhesymau, i’r cyfeiriad a nodir yn yr hysbysiad yn ystod cyfnod hysbysu, sy’n para o leiaf 21 diwrnod. Wrth ystyried y sylwadau, mae’n rhaid i Swyddogion wneud argymhellion i naill ai (a) caniatáu i’r cynllun symud yn ei flaen yn unol â’r hysbyseb, (b) addasu’r cynllun, neu (c) peidio â symud y cynllun yn ei flaen. Yna, bydd y Rheolwr Gweithredol ar gyfer Cynllunio Strategol, Priffyrdd, Traffig a Thrafnidiaeth yn ystyried yr argymhellion hyn ac yn gwneud penderfyniad terfynol arnynt ar ffurf Adroddiad Penderfyniad y Swyddog. 

Gall y GRhT gael ei selio’n ffurfiol os yw’r holl sylwadau sydd wedi dod i law wedi’u hystyried. Gallai addasiadau i’r cynigion a wneir yn sgil y sylwadau olygu bod angen ymgynghori ymhellach. Gall y weithdrefn hon gymryd misoedd i’w cwblhau a gall ffioedd hysbysebu a ffioedd cyfreithiol fod yn sylweddol.

Bydd y Gorchymyn yn cael ei hysbysebu yn y wasg leol eto a bydd yr adran Gwasanaethau Cyfreithiol yn hysbysu’r sawl sydd wedi gwneud sylwadau ar y cynllun bod y Gorchymyn wedi’i wneud. Daw’r Gorchymyn i rym o'r dyddiad a nodir yn yr hysbyseb.


Yn amodol ar Atodlen 9 Rhan VI Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, gall unrhyw un sy’n dymuno cwestiynu dilysrwydd y Gorchymyn neu unrhyw un o’r darpariaethau ynddo ar sail y ffaith nad yw’r Gorchymyn o fewn y pwerau statudol neu na chydymffurfiwyd ag unrhyw un o’r gofynion neu reoliadau perthnasol a nodir isod mewn perthynas â’r Gorchymyn, gall, o fewn chwe wythnos i ddyddiad y Gorchymyn, wneud cais at y diben hwnnw i’r Uchel Lys.​​

© 2022 Cyngor Caerdydd