Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Sut i dalu eich hysbysiad o gosb

​Mae’n bosibl mai’r ffordd gyflymaf a mwyaf cyfleus fydd i dalu eich Hysbysiad Tâl Cosb (HTC) gan ddefnyddio eich cerdyn debyd neu gredyd ar-lein gan ddefnyddio ein system talu ar-lein diogel. 



Beth sydd ei angen arnoch er mwyn talu ar-lein

  • Rhif Hysbysiad Tâl Cosb.  Mae hwn yn dechrau gyda QC.
  • Rhif Cofrestru’r Cerbyd. 


    Peidiwch â thalu os ydych yn bwriadu apelio. Ni fydd swm y gosb yn cynyddu wrth i’ch apêl gael ei hadolygu.

    Ffyrdd arall o dalu

    • Dros y Ffôn: Taliadau cerdyn credyd neu ddebyd yn unig. Llinell dalu awtomatig - 029 2044 5900​​ (7 niwrnod yr wythnos). 
    • Drwy’r post i: Gwasanaethau Parcio, Blwch Post 47, Caerdydd, CF11 1QB

     

    Dylid gwneud sieciau/archebion post yn daladwy i “Gyngor Caerdydd” a nodi'r rhif HTC perthnasol ar y cefn. Ni dderbynnir sieciau wedi’u hôl-ddyddio. 

    Mae’n bosibl na chaiff eich post ei ddosbarthu os na fyddwch yn talu’r taliadau post cywir, ac felly mae’n bosibl na fydd eich taliad neu ohebiaeth yn cyrraedd y Cyngor o fewn y cyfnod o amser angenrheidiol. Caniatewch 2 ddiwrnod gwaith ar gyfer dosbarth cyntaf a 5 diwrnod ar gyfer ail ddosbarth. ​

    NI dderbynnir arian parod.  Os anfonwch arian drwy’r post ni all Cyngor Dinas Caerdydd fod yn atebol os aiff ar goll. 

    Beth sy'n cael ei wneud ag arian sy'n cael ei gasglu drwy gamau gorfodi?

     
    Dim ond at ddibenion gwella’r briffordd a heolydd, yr amgylchedd neu drafnidiaeth teithwyr cyhoeddus y mae modd defnyddio sy’n cael ei gasglu drwy gamau gorfodi.
    ​​​​​​​
    © 2022 Cyngor Caerdydd