Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Sut i apelio cyn ‘Hysbysiad i’r Perchennog’

​Bydd Cyngor Dinas Caerdydd yn ystyried unrhyw her anffurfiol yn erbyn y gosb barcio o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad yr achos o anghydffurfio. Os bydd her anffurfiol yn dod i law ar ôl 28 o ddiwrnodau, efallai na chaiff ei hystyried.  Peidiwch â thalu os ydych am herio’r HTC. Ni fydd y gosb yn cynyddu tra bod eich her yn cael ei hadolygu.

Ar ôl i ni gadarnhau ein bod wedi cael eich llythyr herio, bydd yr achos yn cael ei ohirio hyd nes bod swyddog achos yn cyflwyno llythyr, a byddwch chi fel arfer yn cael hwn o fewn 4-10 wythnos. 

Apelio Hysbysiad Tâl Cosb Ar-lein​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd.
 

Fel arall, cewch chi wneud eich her yn ysgrifenedig i'r cyfeiriad canlynol:

Gwasanaethau Parcio 
Blwch SP 47
Caerdydd
CF11 1QB

Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi eich cyfeiriad ateb a’ch rhif Hysbysiad Tâl Cosb yn eich llythyr herio. Nodwch rif cofrestru'r cerbyd ac unrhyw dystiolaeth a allai gefnogi'ch cais yn eich barn chi. Does dim modd ateb heriau dros y ffôn neu mewn ymweliad. Rhaid eu gwneud ar-lein neu'n ysgrifenedig.

Caiff unrhyw wybodaeth a ddarperir ei phrosesu yn unol â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (neu’r GDPR)​.  Mae'n bosibl y bydd yr awdurdod neu gyrff perthnasol eraill yn defnyddio unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych at ddibenion gorfodi, canfod twyll neu at unrhyw ddibenion perthynol fel y caniateir gan y gyfraith.

Rydw i am herio fy HTC ond dydw i ddim am i’r gosb gynyddu. Ddylwn i dalu, wedyn gwneud apêl?  

Na ddylech. Os byddwch chi’n talu, caiff hynny ei ystyried yn gydnabyddiaeth o atebolrwydd, ac efallai na chaiff eich llythyr herio ei ystyried.

Os bydd y Cyngor yn gwrthod eich her, ac rydych chi am barhau â’r apêl, rhaid i chi aros i gael Hysbysiad i Berchennog (HiB). Mae hon yn ddogfen gyfreithiol sy’n galluogi perchennog cofrestredig neu huriwr y cerbyd i wneud apêl ffurfiol (sylwadau). Os ydych chi am barhau â'r apêl, fydd dim hawl i chi dalu'r swm cosb is mwyach.​​

​​​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd