Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Therapi galwedigaethol

​Os ydych chi neu aelod o’ch teulu’n cael trafferth symud o gwmpas eich tŷ oherwydd anabledd corfforol, nam synhwyraidd neu henaint, gallwch wneud cais am asesiad gan therpydd galwedigaethol ac addasiadau i’w gwneud yn haws i chi fyw’n annibynnol.

 

Atgyfeiriadau

 

Gellir gwneud atgyfeiriad am asesiad therapi galwedigaethol drwy gysylltu â ni’n uniongyrchol:


Ar gyfer oedolyn ag anabledd:
029 2023 4222


Ar gyfer plentyn ag anabledd:
029 2053 6490

 

Derbynnir atgyfeiriadau gan unigolion, teulu a ffrindiau, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol eraill.

 

Oherwydd y nifer fawr o atgyfeiriadau rydyn ni’n eu cael, byddwn yn sgrinio eich atgyfeiriad ac yn blaenoriaethu’r cymorth i gynnig ymateb amserol yn seiliedig ar eich lefel o angen/lefel y risg. Gallwch helpu gyda’r broses hon drwy gynnig gwybodaeth fanwl am eich cyflwr meddygol, anawsterau rydych chi’n eu cael, a budd-daliadau/lwfansau anabledd a gewch.

 

Rhesymau dros Atgyfeiriadau

 

  • Anawsterau o ran rheoli gofal personol, megis cyrraedd y toiled neu’r bath neu wisgo.
  • Anawsterau amgylcheddol/swyddogaethol fel dringo grisiau, cael mynediad i’r cartref, eistedd a chodi oddi ar gadair neu fynd i mewn ac allan o’r gwely.
  • Anawsterau sy’n effeithio ar ofalwyr sy’n eich helpu yn eich cartref. Gall hyn gynnwys anawsterau o ran codi, cario a symud.

 

Pa fath o gymorth y gallwn ni ei gynnig?

 

Gallwn eich helpu drwy: 

 

  • Argymell Grant Cyfleustera​​​u​ i’r Anabl i gyflawni addasiadau mawr i'ch cartref, megis lifft grisiau, cawod mynediad isel neu gyfleusterau i gadair olwyn.

  • Cyflawni addasiadau bach megis rheiliau llaw a rheiliau grisiau.

  • Gallwn fenthyg ystod eang o offer i’ch helpu i wneud pethau gwahanol yn eich cartref a allai fod yn anodd i chi eu gwneud – e.e. offer syml i’ch helpu i ddefnyddio’r tŷ bach neu ymolchi neu fynd i rannau gwahanol o'ch tŷ.

  • Cynnig cyngor ar ddulliau gwahanol o gyflawni gweithgareddau yn y cartref.

  • Cysylltu â gwasanaethau cymorth eraill os yn briodol.

 

A oes unrhyw beth na allwn helpu gydag ef?

 

  • asesiadau symudedd a chymhorthion symudedd fel cadeiriau olwyn, ffyn a fframiau cerdded. 
  • Offer nyrsio fel comodau. 
  • Asesiadau o anawsterau mynediad mewn perthynas â sgwteri modur a brynir yn breifat.
  • Cadeiriau breichiau sy’n symud i fyny ac i lawr.

© 2022 Cyngor Caerdydd