Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Gwasanaethau plant

​​​​​​​​Rydym yn cynnig ac yn trefnu nifer o wasanaethau gofal i helpu a chefnogi teuluoedd â phlant.

Rydym yn awyddus i sicrhau bod plant a phobl ifanc Caerdydd yn:
 
  • iach
  • teimlo’n dda am eu bywydau
  • ddiogel ac wedi eu gwarchod
  • gallu dysgu pethau newydd
  • gallu tyfu’n hapus
  • cael gofal da.
 
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag ystod o sefydliadau i gynnig gwasanaethau i'r sawl mewn angen.


Rydym wedi cyhoeddi Strategaeth Rhianta Corfforaethol 2021 - 2024​​ ​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd​ sy'n amlinellu ein hymrwymiadau, ein heriau a'n camau allweddol i gefnogi plant sy'n derbyn gofal a'r bobl sy'n gadael gofal ledled y ddinas.

Gan weithio gyda phartneriaid a'r gymuned ehangach, mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i gefnogi plant sy'n derbyn gofal a'r bobl sy'n gadael gofal er mwyn iddynt fod yn hapus, bod yn ddiogel a ffynnu.

Fel rhan o ymgynghoriad â phlant sy'n derbyn gofal, mae pum blaenoriaeth allweddol wedi'u nodi yn y strategaeth yn seiliedig ar eu barn a'u profiadau personol.

Mae’r rhain yn cynnwys:
​​​​
  • Gwella lles emosiynol ac iechyd corfforol
  • Gwell cysylltiadau, gwell perthnasoedd
  • Cartref cyfforddus, diogel a sefydlog tra'u bod mewn gofal ac ar ôl hynny
  • Cyflawniad addysgol, cyflogaeth a hyfforddiant
  • Dathlu ein plant a'n pobl ifanc

Video id: PD-Bl3jPj8s
​​
Gyda’n gilydd, mae arnom ddyletswydd i gynnig gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chymorth i breswylwyr Caerdydd er mwyn gwella lles pobl sydd angen gofal a chymorth. Mae hyn yn cynnwys:

Gwrando ar farn a theimladau plant a phobl ifanc
Trin plant a phobl ifanc â pharch
Bod yn ymwybodol o wahanol anghenion diwylliannol, cred ac ieithyddol.

Mae gennym Strategaeth Cymorth Cynnar sy’n rhoi’r grym i blant a'u teuluoedd drin eu lles eu hunain drwy gynnig gwasanaethau sy’n ateb eu hanghenion newidiol er mwyn iddyn nhw fedru mynd i’r afael â’u hanawsterau eu hunain.
Rydyn ni am helpu:

  • plant a phobl ifanc i aros â’u teuluoedd
  • plant a theuluoedd i liniaru effaith anabledd
  • i ostwng nifer y plant a phobl ifanc sy’n troseddu
  • i ostwng nifer y plant a phobl ifanc sy'n mynd i ofal, os yw’n ddiogel gwneud hynny
  • i wella’r canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc sydd Mewn Gofal a chynnig cefnogaeth barhaus i Bobl sy’n Gadael Gofal pan ddônt i oed
Mae'n bwysig ein bod ni'n gwrando ar y plant, y bobl ifanc, a'r teuluoedd rydyn ni'n eu cefnogi. Mae sawl ffordd y gall ein pobl ifanc ddweud eu dweud.

Eiriolaeth


Person nad yw'n cael ei gyflogi gan Wasanaethau Plant Cyngor Caerdydd ac a fydd yn eich helpu i leisio'ch barn yw Eiriolwr Annibynnol. Gall eiriolwyr eich helpu i ddeall eich hawliau ac i wneud penderfyniadau gwybodus am eich bywyd, a'ch cefnogi i siarad am bethau sy'n bwysig i chi.

Mwy o wybodaeth am Eiriolaeth​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd

Clwb Bright Sparks


Gallwch ymuno â'n grŵp cyfeillgar o blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, a lleisio eich barn.

Mae’r grŵp yn cwrdd bob pythefnos ar ddydd Iau o 5pm. Gallwch:

  • ddweud eich dweud a rhoi eich barn i ni ar wasanaethau a sut y gellid eu gwella
  • dysgu mwy am eich hawliau
  • cymryd rhan mewn gemau a gweithgareddau llawn hwyl
  • treulio amser gyda phobl eraill sydd mewn sefyllfa debyg


Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno neu os ydych eisiau cael gwybod mwy, cysylltwch â Sam ar 07767 168 478 neu samantha.anderson@nyas.net​.

Mind of my Own


Mae Mind of my Own wedi creu apiau cwbl hygyrch sy'n eich galluogi i nodi eich meddyliau a'u hanfon at y rheiny sydd angen clywed gennych.

Mwy o wybodaeth am Mind of my Own​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd

 
​  

Os ydych am gael rhagor o wybodaeth, cyngor neu gymorth, cysylltwch â ni drwy ffonio:

 

029 2053 6490

 

Y tu allan i oriau swyddfa, ffoniwch y Tîm Dyletswydd Brys ar

 

029 2078 8570

 

Chwiliwch am wybodaeth am y gwasanaethau a’r cymorth sydd ar gael ar gyfer teuluoedd​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd yng Nghaerdydd

© 2022 Cyngor Caerdydd