Mae gofalwyr yn bobl y mae eu bywydau yn cael eu heffeithio mewn rhyw ffordd trwy helpu person sydd â salwch meddwl, anabledd corfforol neu ddysgu, gwendid, neu broblem gyda sylweddau.
Dyma sawl enghraifft o’r pethau y gall gofalwr ofalu amdanynt:
- Gofal cyffredinol – rhoi meddyginiaeth, newid gorchuddion, cynorthwyo â symudedd
- Tasgau domestig – coginio, glanhau, golchi, smwddio, siopa
- Cymorth emosiynol - helpu gyda chyflyrau iechyd meddwl sy'n byrhau a bygwth bywydau
- Gofal personol – gwisgo, golchi, gofynion toiled
- Arall – helpu gyda thasgau yn y cartref, talu biliau, mynd â’r person i’r meddyg neu apwyntiadau yn yr ysbyty
Nid oes gofalwr nodweddiadol ac nid yw’r rhan fwyaf o ofalwyr yn cydnabod mai gofalwyr ydynt.
Ni thelir gofalwyr am y cymorth y maent yn ei roi ac nid oes angen iddynt fyw gyda'r person y maent yn gofalu amdano, y mae angen iddo fyw yn annibynnol ac nid mewn cartref preswyl neu nyrsio.
Os ydych llai na 18 oed, gallwn hefyd gynnig gwybodaeth i
Ofalwyr ifanc.