Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Asesiad gofal

Gall fod yn ofalwr fod yn foddhaus, ond gall hefyd effeithio'n negyddol ar fywyd cartref a gwaith, amser rhydd a pherthynas. Os ydych yn cael trafferth ymdopi, mae gwahanol ffyrdd y gallwn eich helpu.
 
Ar ôl i chi gysylltu â ni​, byddwn yn asesu eich sefyllfa am ddim i ddysgu sut y gallwn fodloni eich anghenion yn y ffordd orau.

 

Pa fath o help a chymorth gallaf eu cael?


 

Yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiad, gallwn eich helpu gyda chyngor a chymorth neu i ddefnyddio gwasanaethau eraill. 

Gallwn eich helpu â’r canlynol:

 
 
  • meddwl am eich cyfrifoldebau gofalu a siarad amdanynt
  • cael help gan wasanaethau eraill – iechyd a thai er enghraifft
  • cysylltu â grwpiau a sefydliadau eraill sy’n deall gwaith gofalu
  • cael gwybodaeth a chyngor, er enghraifft, am fudd-daliadau, incwm a’ch hawliau 

 
Ar ôl i chi gael eich asesu, gallwn hefyd ystyried: 

 
  • help i drefnu larwm cymunedol
  • trefnu gweithgareddau ar gyfer y person rydych yn gofalu amdano
  • eich cofrestru ar gyfer y Cynllun Cerdyn Argyfwng Gofalwyr
  • trefnu gwasanaethau eraill sy’n rhoi siebiant i chi – saib, rhywun i ofalu yn eich lle yn ystod y dydd/nos neu wasanaeth cynorthwyo

 

Beth mae’n rhaid i chi ddweud wrthym?

I asesu eich sefyllfa, byddwn yn trefnu i rywun, Gweithiwr Asesiad Gofalwr fel arfer, ddod i siarad â chi am:

 
  • ​yr help y mae’r person rydych yn gofalu amdano ei angen
  • y math o help rydych yn ei roi
  • faint o help rydych yn ei roi

 
Rydym hefyd eisiau gwybod am sut y mae gofalu am y person yn effeithio ar eich iechyd, eich annibyniaeth, eich swydd, eich bywyd cymdeithasol a'ch bywyd personol yn gyffredinol.

 
Os ydych yn 18 oed neu’n hŷn ac yn gofalu am rywun sy’n 18 oed neu’n hyn ac am i ni asesu eich sefyllfa, cysylltwch â ni.
​​

© 2022 Cyngor Caerdydd