Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Ymholiadau cyn gwneud cais

​​

Erbyn hyn mae dwy ffordd o ddelio ag ymholiadau cyn gwneud cais ond ni ddylid drysu rhwng y rhain a’r brif broses ymgynghori cyn gwneud cais.  Cliciwch ar un o'r canlynol ar gyfer y taliadau a’r gofynion priodol:

Ni fydd cyngor cyn cynllunio yn cadarnhau a yw project yn dod o dan ddatblygiad a ganiateir – gweler Caniatâd Cynllunio: Hawliau Datblygu a Ganiateir i Aelwydydd​​​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd

 

E-bostiwch ffurflenni cyn gwneud cais a ffurflenni statudol cyn gwneud cais wedi eu cwblhau at CofrestruCynllunio@caerdydd.gov.uk​

Gellir gwneud taliadau dros y ffôn yn dilyn cadarnhau rhif cais a gaiff ei e-bostio atoch chi.


 

Y gyntaf yw’r llwybr statudol a osodir gan Lywodraeth Cymru. 


Rydym yn gofyn am ffurflen ymholiadau c​​ynghori cyn ymgeisio (263kb PDF)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd Dolen yn agor mewn ffenestr newydd ynghyd ag o leiaf syniad o’r cynnydd o ran maint y llawr a/neu nifer yr unedau newydd arfaethedig, cyfeiriad y safle a chynllun lleoliad.  


Mae’n rhaid cynnwys y ffi berthnasol er mwyn gallu prosesu:


  • Deiliad tŷ - £25
  • Datblygiad Bach – £250 (1-9 anheddle; maint y llawr gan gynnwys newid defnydd sy’n llai na 999 metr sgwâr)
  • Datblygiad Mawr – £600 (1-24 anheddle; maint y llawr gan gynnwys newid defnydd o 1,000 i 1,999 metr sgwâr)
  • Datblygiad Mawr Iawn – £1000 (Mwy na 24 anheddle; maint y llawr gan gynnwys newid defnydd sy’n fwy na 1,999 metr sgwâr) 


Bydd hyn yn galluogi’r adran i ddarparu ymateb ysgrifenedig i bob ymholiad dilys ac fe ddylai, fan lleiaf, ddarparu'r canlynol:

  • Hanes cynllunio perthnasol y safle
  • Polisïau cynlluniau datblygu perthnasol
  • Canllawiau cynllunio ategol perthnasol
  • Unrhyw fater cynllunio perthnasol arall
  • Asesiad cychwynnol o’r datblygiad arfaethedig, yn seiliedig ar y wybodaeth uchod


Mae’r wybodaeth yn y ddogfen hon wedi’i dylunio i’w hargraffu ac efallai na fydd modd gweld popeth ar-lein.

​​​​​

​I gael cyngor mwy cynhwysfawr, rydym yn dal i gynnig ein gwasanaeth ymholiadau cyn ymgeisio diamod yn ddibynnol ar atodlen ffioedd cyn ymgeisio Rhestr Daliadau Cyn Ymgeisio (PDF 99.8 KB)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd Dolen yn agor mewn ffenestr newydd

  • Deiliad y tŷ / ceisiadau bychain - £60
  • Mân Ddatblygiad - £300 (1-9 annedd; gofod llawr llai na 999m2 gan gynnwys newid defnydd)
  • Prif Ddatblygiad - £1500 (1-24 annedd, gofod llawr rhwng 1,000 ac 1,999m2 gan gynnwys newid defnydd)
  • Prif Ddatblygiad Mawr - £3000 (Mwy na 24 annedd, gofod llawr mwy na 1,999m2 gan gynnwys newid defnydd)


Bydd ymateb di-amod cyn cais yn gwneud y canlynol:

  • Egluro pa bolisïau /safonau sy’n debygol o fod yn berthnasol i’r datblygiad
  • Yn nodi ar adeg gynnar yn y broses unrhyw angen am gyfraniad arbenigol (e.e. ynghylch adeiladau wedi eu cofrestru, coed, tirwedd, sŵn, trafnidiaeth, tir wedi ei halogi, ecoleg ac archeoleg)
  • Helpu i sicrhau bod eich cais yn gyflawn ac, i’w wirio er mwyn osgoi iddo gael ei wrthod ar adeg cofrestru neu ei wrthod yn gynnar oherwydd diffyg gwybodaeth ddigonol,
  • Yn nodi pan fo cynnig yn annerbyniol, gan arbed cost y cais i chi


Unwaith i chi gyflwyno’r ffurflen byddwn yn cysylltu â chi i drefnu cyfarfod os bydd angen a byddwn yn ysgrifennu atoch gyda’n cyngor a’n hargymhellion. Fy fydd hyn rhwng 30 diwrnod ac wyth wythnos o’r adeg pan dderbyniwn eich cais, gan ddibynnu ar y math o broject adeiladu ydyw. 


Nid yw ymholiad cyn gwneud cais yn ofyniad cyfreithiol a gallwch wneud cais cynllunio hebddo.


Mae gofyn bellach i ymgymryd ag ymgynghoriad penodol ar gyfer ceisiadau mawr cyn cyflwyno unrhyw gais cynllunio i’r awdurdod, sydd ar wahân i'r prosesau cyn cyflwyno cais uchod


Canllawiau ar gyfer Ymgynghori Cyn Ymgeisi​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd


Os ydych am gysylltu ag Awdurdod Priffyrdd Caerdydd fel rhan o’ch ymgynghoriad cyn gwneud cais, defnyddiwch y cyfeiriad e-bost hwn – YmgynghoriadauTrafnidiaeth@caerdydd.gov.uk


Gofynnir am adroddiadau ymgynghori cyn ymgeisio o 1 Awst 2016 ymlaen. 

Mae’r ymholiad cyn gwneud cais yn cynnig cyngor proffesiynol ar eich gwaith adeiladu, ond nid yw’n benderfyniad ffurfiol ar gynllunio. Os ydych am gael ateb pendant ar ba un a oes angen caniatâd cynllunio arnoch ai peidio, gallwch gyflwyno gais am Dystysgrif Datblygu Cyfreithlon (TDC).

 

Mae ceisiadau am TDC ar gyfer defnydd neu ddatblygiad a gynigir yn costio hanner pris y ffi gynllunio arferol. Mae’r ffi lawn yn daladwy am ddefnydd neu ddatblygiad presennol.

 

I gael rhagor o wybodaeth am Dystysgrifau Datblygu Cyfreithlon, ac i wneud cais am un, ewch i’r Porth Cynllunio cenedlaethol.

 

Cyngor ar ddefnyddio tir

 

Mae Cymorth Cynllunio Cymru yn elusen annibynnol sy’n rhoi cyngor a chymorth ar bob agwedd ar ganiatâd cynllunio o ran sut y caiff darnau o dir yng Nghymru eu defnyddio.

 

​​​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd