Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Monitro Datblygiadau

Rydym yn cadw llygad ar faint o ddatblygiadau Tai a Masnachol sy’n mynd rhagddynt yng Nghaerdydd. Mae hyn yn ein galluogi i weld a yw cynlluniau a chynigion yn cael eu cyflawni’n llwyddiannus ac i adolygu anghenion datblygu Caerdydd.

 

Mae gwybodaeth fonitro a gesglir gennym yn ein helpu i lunio adroddiadau ar gyfer cynlluniau a chynigion gan gynnwys:

 

  • tir a safleoedd sydd â chaniatâd cynllunio
  • faint o dir sydd ar gael i’w ddatblygu
  • datblygiadau sy’n cael eu hadeiladu
  • datblygiadau a gwblhawyd
  • cymariaethau â datblygiadau blaenorol 

 

Mae monitro swyddfeydd a monitro tir busnes a diwydiannol yn rhan o’r holl wybodaeth yn y rhestr uchod.

 

Manylion monitro penodol

 

Adroddiad Monitro Blynyddol - Mae’r Adroddiad Monitro Blynyddol yn ein galluogi i asesu gweithrediad y Cynllun Datblygu Lleol. Rhaid iddo gael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref bob blwyddyn, ar ôl mabwysiadu’r CDLl.

 

Monitro gwestai - yn cynnwys gwirio faint o dir a bennir i westai yng Nghaerdydd. Mae’r adroddiad yn cynnwys manylion am westai â thros 25 o ystafelloedd sydd eisoes yn bodoli, ceisiadau cynllunio cyfredol, safleoedd sy’n cael eu hadeiladu a safleoedd â chaniatâd cynllunio.

 

Monitro tai – yn cynnwys rhagor o fanylion am safleoedd a ddosberthir yn ôl tir maes glas/tir llwyd, yn ôl sector ac ardal, a mapio pob safle â 10 uned neu fwy.

 

Monitro manwerthu – yn cynnwys cynnal arolygon o ofod manwerthu yn y canolfannau ardal a chanolfannau lleol. Rydym hefyd yn rhoi darlun cyfoes o ystod a math y gofod llawr y tu allan i ganolfannau a datblygiadau yng Nghaerdydd.  Mae adroddiadau’n cynnwys gwybodaeth am leoliad, maint a deiliadaeth datblygiadau cyfredol.

 

Monitro Gwastraff – Mae’r Amserlen Safleoedd Gwastraff yn cynnwys yr holl gyfleusterau rheoli gwastraff yng Nghaerdydd. Caiff hon ei diweddaru unwaith y flwyddyn.

 

Monitro Mwynau – rydym yn cadw llygad ar yr holl ddatblygiadau mwynau yng Nghaerdydd. Mae'r Gofrestr Mwynau’n rhestru’r holl ganiatâd cynllunio ar gyfer gwaith mwynau.

 

Mae’r cyhoeddiadau monitro datblygu canlynol ar gael ar gais. Anfonwch fanylion am eich cais ynghyd â siec yn daladwy i ‘Cyngor Sir Caerdydd’ i:

 

Cynllunio Strategol
Ystafell 201
Neuadd y Sir
Caerdydd
CF10 4UW

 

Tir Busnes a Diwydiannol

  • Amserlen Monitro Banc Tir Busnes a Diwydiannol. Mis Gorffennaf bob blwyddyn. £40.00
  • Datblygu Swyddfa Dosbarth Busnes. Mis Gorffennaf bob blwyddyn. £20.00

 

Gwestai

  • Bwletin Gwybodaeth am Westai. Mis Gorffennaf bob blwyddyn. £15.00

 

Manwerthu

  • Siopa Manwerthu y tu allan i ganolfannau. Ionawr/Gorffennaf. £30.00

 

Tai

  • Amsrlen Monitro Tai. Bob blwyddyn. £30.00

  • Map Monitro Tai

 

Cyfleusterau Gwastraff

  • Amserlen Safleoedd Gwastraff. Mis Gorffennaf bob blwyddyn. £10.00
  • Cofrestr mwynau. Mawrth 2007. £15.00

 

Astudiaethau Argaeledd Tir Tai ar y Cyd

 

Rhaid i awdurdodau lleol yng Nghymru gwblhau astudiaethau argaeledd tir tai bob blwyddyn i fonitro’r cyflenwad tai yn eu hardaloedd. Caiff yr Astudiaethau eu paratoi â dyddiad sylfaen cyffredin, sef 1 Ebrill bob blwyddyn, i gynnig darlun ar gyfer Cymru gyfan.

Mae’r adroddiad isod yn dangos p’un a oes gan Gaerdydd ddigon o dir, neu os bydd ganddo ddigon o dir, ar gyfer cyflenwad pum mlynedd o dir tai.

Cysylltwch â ni i ofyn am gopi o’r adroddiad

Cysylltu â ni


           

© 2022 Cyngor Caerdydd