Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cynllun y ddinas a chelf gyhoeddus

​​​​​​​​​​​​​Gall y ffordd y mae adeiladau a mannau cyhoeddus yn edrych a gweithio helpu i wneud ein prifddinas yn lle brafiach i fyw a gweithio ynddo, ac ymweld ag ef. 

 

Gall dull cynaliadwy o gynllunio datblygiadau newydd hefyd leihau’r effaith a gaiff y diwydiant adeiladu ar newid yn yr hinsawdd, ychwanegu gwerth i’r datblygiad a'r ardal leol ac arwain at adeiladau sy’n rhatach ac yn fwy effeithlon i’w gwresogi, eu goleuo a’u rheoli.

 

Mae’n rhan o gylch gwaith cyngor i sicrhau bod canllawiau ar waith a bod cyngor yn cael ei roi ar gynllunio adeiladau a mannau cyhoeddus newydd er mwyn cyflawni hyn. 

Lawlyfr Tir Cyhoeddus Caerdydd



Mae tir cyhoeddus yn cyfeirio at y gofod rhwng adeiladau lle caiff bol fynediad rhydd, megis strydoedd a sgwariau cyhoeddus.

Mae’r Lawlyfr Tir Cyhoeddus Caerdydd (PDF 3.11 MB) yn nodi’r canllawiau a’r egwyddorion dylunio y dylid eu hystyried wrth ddylunio cynlluniau tir cyhoeddus er mwyn creu strydoedd a mannau cyhoeddus cynhwysol o safon.

 Canllaw ar Ddatganiadau Cynllunio a Mynediad 

Mae’n rhaid i’r mwyafrif o geisiadau cynllunio a cheisiadau caniatâd adeilad rhestredig (gyda rhai eithriadau) gael Datganiad Cynllunio a Mynediad i fynd gyda’r cais. 

Bydd y Datganiad Cynllunio a Mynediad yn dangos bod amcanion dylunio da wedi’u hystyried. 

Lawrlwythwch a darllenwch y Canllaw Datganiad Cynllunio a Mynediad (PDF 323 KB)  

Canllawia​u Cynllunio 

Mae canllawiau cynllunio yn trafod ystod o bynciau gan gynnwys estyniadau cartrefi, cynlluniau tai newydd ac adeiladau uchel, ac yn cynnig cyngor ar ddewisiadau cynllunio, astudiaethau achos a gwybodaeth ddefnyddiol arall.


Canllaw Dylunio i Fyw​

Mae’r Canllaw Dylunio i Fyw (PDF 13 MB)​​​ ​yn egluro sut bydd datblygiadau newydd yn helpu Caerdydd i fod y ddinas orau i fyw ynddi. Mae’n egluro uchelgais y Cyngor ar gyfer dylunio trefol a phensaernïaeth sy’n creu ymdeimlad  o le ac a fydd yn cael ei ddefnyddio gyda datblygiadau strategol ledled y ddinas.​​

 

Canllaw Cynllunio Preswyl Caerdydd 

Mae gan Ganllaw Dylunio Preswyl Caerdydd​​​​​​​​​​​​​ (PDF 1.73 MB)​​ ganllawiau ar gynllunio datblygiadau preswyl yng Nghaerdydd. Mae ganddo hefyd astudiaethau achos ac mae’n disgrifio’r broses gynllunio i’w dilyn.

 

Canllaw Cynllunio Adeiladau Uchel 

Mae’r Canllaw Cynllunio Adeiladau Uchel (PDF 1.73 MB) yn cynnig cyngor ar leoliad adeiladau uchel ac egwyddorion y mae’n rhaid cydymffurfio â nhw wrth eu cynllunio. Mae’r canllaw hwn yn canolbwyntio ar ddatblygiad adeiladau uchel yng nghanol y ddinas ac yn y bae.

 

Canllaw Cynllunio Safleoedd Mewnlenwi 

Mae’r Canllaw Cynllunio Safleoedd Mewnlenwi (PDF 2.65 MB)  yn cynnwys canllawiau ar ddatblygiadau mewnlenwi, sef y ffordd y caiff safleoedd bach sydd eisoes wedi’u datblygu yn y ddinas eu datblygu ymhellach.  

 

Canllaw Cynllunio Blaen Siopau ac Arwyddion 

Mae’r Canllaw Cynllunio Blaen Siopau ac Arwyddion (PDF 2.52 MB) yn cynnwys canllawiau ar newidiadau i flaen siopau ac arwyddion. Mae’r ddogfen yn amlinellu materion allweddol fel dyluniad, goleuadau, diogelwch a hysbysebu.

 

Safonau Adeiladu Cynaliadwy Cymru 

Mae dogfen safonau adeiladu cynaliadwy Llywodraeth Cymru yn berthnasol i bob datblygiad newydd yn ogystal â datblygiadau nad ydynt yn rhai preswyl sydd â gofod llawr o 1000m2 neu fwy, neu safle sy’n fwy nag 1 hectar.

Adolygiad dylunio

Mae’r gwasanaeth Adolygu Dylunio mewnol yn cynnig cyngor ar safon y gwaith dylunio mewn cysylltiad â datblygiadau a gyflwynwyd ar gyfer cyngor cyn cyflwyno cais cynllunio neu ganiatâd cynllunio.  Mae Adolygiadau yn crynhoi’r cynlluniau a adolygwyd ar gael ar gyfer:

Celf Gyhoeddus 

Mae gan Gaerdydd fwy na 200 darn o gelf gyhoeddus sydd wedi datblygu law yn llaw â’r ddinas dros y 150 mlynedd ddiwethaf ac sy’n rhan annatod o fannau cyhoeddus y ddinas. 

Dod o hyd i waith celf 

Mae Cofrestr Celf Gyhoeddus Caerdydd (PDF 5.36 MB)​ yn cynnwys manylion am gasgliad celf gyhoeddus Caerdydd. Gallwch lawrlwytho’r ddogfen i ddysgu mwy am bob darn o gelf, gan gynnwys y teitl, yr artist, y lleoliad a’r flwyddyn y cafodd ei ddadorchuddio.


176606.5:318129.625|publicart|18000

 

Diogelu celf gyhoeddus

 

Mae tair ddogfen sy’n nodi ffyrdd o ddiogelu gwaith celf presennol Caerdydd a helpu i greu mwy o gyfleoedd i greu celf yn y dyfodol.

 

 

Cysylltu â ni

I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’r dogfennau a chanllawiau uchod, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddyluniad y ddinas, cysylltwch â ni ar-lein


Creu Lleoedd
Cynllunio Strategol
Cyngor Caerdydd
Ystafell 250 Neuadd y Sir
Glanfa’r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW 


Cysylltu â ni

​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd