Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Gwerthu dan oed

​​​​Pwrpas cyfyngiadau oed ar gynnyrch megis tybaco, alcohol, toddyddion, DVDs, tocynnau loteri, tân gwyllt, ac ati yw i warchod pobl ifanc rhag niwed.


Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â’r heddlu, hybu iechyd, diogelwch cymunedol ac ysgolion lleol i leihau'r achlysuron lle gwerthir dan oed.


Byddwn yn gwneud hyn drwy wneud y canlynol:


  • ymateb i gwynion o werthu dan oed
  • rhoi cyngor i fasnachwyr sy’n gwerthu’r cynnyrch hyn
  • prynu nwyddau gyda gwirfoddolwyr ifanc i weld a ydy masnachwyr yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth
  • rhoi rhybuddion ac erlid troseddwyr lle bo angen


Gweler ein tudalen cyngor i fasnachwyr sy'n rhoi gwybodaeth a chyngor i unrhyw un sydd eisiau gwerthu cynnyrch sydd â chyfyngiadau oed.


 

Os ydych yn credu bod rhywun yn gwerthu cynnyrch sydd â chyfyngiadau oed i blant dan oed yna adroddwch hynny.

© 2022 Cyngor Caerdydd