Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Grantiau eraill y Cyngor

​Mae’r adran hon yn rhoi trosolwg o’r cynlluniau grantiau y mae Cyngor Dinas Caerdydd yn eu gweinyddu ar hyn o bryd sydd ar gael i sefydliadau’r Trydydd Sector, gan gynnwys grwpiau cymunedol a sefydliadau gwirfoddol.

Cronfa Deddf Eglwysi Cymru 


Mae Cronfa Deddf Eglwysi Cymru yn ymddiriedolaeth elusennol sy’n annibynnol ar y Cyngor. Ei nod yw rhoi grantiau dyngarol ar gyfer amrywiaeth eang o ddibenion megis:

  • Addysg: buddion nad ydynt ar gael yn rhwydd gan ffynonellau eraill
  • Cymorth gyda salwch: cymorth pan nad yw help o’r fath ar gael yn rhwydd gan ffynonellau eraill
  • Cymorth gydag angen:  cymorth cyffredinol pan fo angen, caledi neu ofid
  • Llyfrgelloedd, amgueddfeydd, orielau celf ac ati, sy’n gwella'r gwerthfawrogiad o gelfyddydau a llenyddiaeth Gymraeg yn gyffredinol
  • Cyfleusterau cymdeithasol a hamddenol yn gyffredinol
  • Amddiffyn adeiladau hanesyddol: cynyddu diddordeb ym mhensaernïaeth Cymru, hanes a gwyddoniaeth yn gyffredinol, er budd pobl Cymru
  • Ymchwil a thriniaeth feddygol a chymdeithasol ac ati
  • Cyfnod prawf: Cymorth i bobl sydd ar gyfnod prawf, neu eu teuluoedd
  • Cymorth i bobl ddall neu'r henoed
  • Addoldai a chladdfeydd: gwaith adfer a chynnal a chadw
  • Argyfyngau neu gymorth gyda thrychinebau 
  • Dibenion elusennol eraill, sy'n gyson â'r uchod

Gweinyddir y gronfa gan Gyngor Bro Morgannwg, ond rhaid i geisiadau ar gyfer projectau sy’n seiliedig yng Nghaerdydd gael eu cyflwyno i Gyngor Caerdydd.   Cysylltwch â ni i gael manylion pellach ynghylch y gronfa a’r meini prawf cymhwyster. 

Ar gyfer ceisiadau gan sefydliadau ym Mro Morgannwg, 
ewch eu gwefan.​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd

Cysylltwch â ​ni


Os ydych am gysylltu â ni ynghylch unrhyw un o’r cynlluniau grantiau, defnyddiwch y manylion cyswllt perthnasol.  

Cysylltu â ni


Swyddog Grantiau Corfforaethol
Cymunedau
Blwch SP 335
Caerdydd
CF11 1FP

029 2053 7484
​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd