Rydym am i Gyngor Caerdydd fod yn gyngor rhagorol. I’n helpu i gyflawni hyn rydyn ni’n cyson fonitro pa mor dda rydyn ni’n wneud.
Mae ein
Cynllun Corfforaethol yn nodi’r hyn rydyn ni am ei gyflawni a sut y byddwn yn gwneud hynny. Mae’n amlinellu ein blaenoriaethau a’n hamcanion llesiant, ac mae casgliad o fesurau a thargedau i’w monitro’n flynyddol yn sail iddynt.
Amcanion strategol a fydd yn sicrhau bod y Cyngor yn cyfrannu at gyflawni’r nodau lles yw’r amcanion llesiant. Maen nhw wedi eu creu i sicrhau y cyfrennir cymaint â phosibl i’r Nodau Llesiant ac maen nhw’n orfodol dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Mae hyn yn ein helpu i ddathlu ein llwyddiannau ac i ffocysu ar y meysydd lle mae angen i ni wella.
Rydym yn cyhoeddi adroddiadau perfformiad ddwywaith y flwyddyn dros y flwyddyn ariannol i rannu'r wybodaeth hon, sy'n cael eu hadolygu gan y
Pwyllgor Craffu Adolygu Polisi a Pherfformiad a’r
Cabinet. Rydym hefyd yn cyhoeddi
Adroddiad Lles yn flynyddol sy’n asesu ein perfformiad yn erbyn yr hyn y dywedasom y byddem yn ei wneud yn y Cynllun Corfforaethol.
Cyhoeddir yr Adroddiad Perfformiad Canol Blwyddyn a'r Adroddiad Lles Blynyddol ar
Modern.Gov fel rhan o bapurau'r Cabinet a'r Cyngor.