Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Strategaeth Cymorth Cynnar

Yng Nghaerdydd rydym yn credu y dylai pob plentyn a pherson ifanc gael y cyfle i gyrraedd eu llawn botensial. Rydym yn cydnabod bod canlyniadau plant ar eu gorau pan gânt eu cefnogi i dyfu a chyflawni o fewn eu teuluoedd a’u cymunedau wrth i deuluoedd ddeall eu plant.  ​

Mae Caerdydd yn newid y ffordd mae’n darparu gwasanaethau i blant a theuluoedd y mae angen cymorth arnynt drwy fenter Partneriaeth Caerdydd o’r enw Strategaeth Cymorth Cynnar (1.9Mb PDF)​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd

  • ​Mae’r dull amlasiantaeth hwn yn ceisio lleihau nifer y plant, pobl ifanc a theuluoedd y mae angen gwasanaethau statudol arnynt gan y Gwasanaethau Cymdeithasol a gwneud atal problemau yn fater i bawb. 
  • Bwriad y dull gweithredu hwn yw sicrhau bod yr holl blant a phobl ifanc, beth bynnag fo’u lefel angen, yn elwa, ac felly mae’n cynnwys plant ag anabledd.  
  • Mae’r dull gweithredu’n nodi’r ffordd y gall gwasanaethau weithio gyda’i gilydd, rhannu gwybodaeth, a rhoi plant a’u teuluoedd yn gyntaf i sicrhau eu bod yn cael y cymorth sydd eu hangen arnynt ar yr amser cywir, yn y ffordd gywir.  
  • Bydd y dull gweithredu yn helpu i ddatblygu gwasanaethau sy’n ymateb yn hyblyg i ddiwallu anghenion newidiol plant, pobl ifanc a theuluoedd yn ein dinas. 
  • Mae’n cydnabod yr angen i symud y ffocws o reoli argyfyngau tymor byr i ymyrryd a rhoi cymorth yn effeithiol yn gynnar.
  • Mae’r dull gweithredu’n rhoi’r gallu i deuluoedd nodi eu problemau eu hunain, eu hanghenion a’u datrysiadau ond mae'n rhoi fframwaith er mwyn i weithwyr proffesiynol asesu, cynllunio, gweithredu ac adolygu. 
  • Y nod yw magu gwydnwch plant a theuluoedd er mwyn iddynt allu goresgyn eu hanawsterau am weddill eu bywydau.

​​
© 2022 Cyngor Caerdydd