Gall y Cyngor osod arwyddion ffordd i helpu i gyfeirio pobl at atyniadau lleol. Mae math yr arwyddion y gallwch ymgeisio amdanynt yn dibynnu ar y math o atyniad y mae’r arwydd yn cyfeirio pobl ato.
Pwy all wneud cais?
Lleoliadau atyniadau a theithiau
- Eiddo hanesyddol a’r castell
- Amgueddfeydd ac orielau
- Parciau a gerddi, gwarchodfeydd natur ac atyniadau naturiol
- Adeiladau hamdden
Cyfleusterau Ymwelwyr
- Gwestai, adeiladau gwelyau a brecwast a hosteli ieuenctid
- Bwytai a thafarndai
- Theatrau a lleoliadau cyngherddau
- Sefydliadau manwerthu
- Lleoliadau chwaraeon
Nid rhestrau hollgynhwysfawr yw’r rhain, ond maent yn rhoi syniad o rai o’r sefydliadu sy’n gymwys ar gyfer arwyddion. Os hoffech chi wybod a yw eich cyrchfan sefydliad yn gymwys, cysylltwch â ni.
Sut mae gwneud cais
Gwnewch ceisiadau dylunio Arwyddion Twristiaid ar-leinDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd. Bydd angen i chi gofrestru’n gyntaf ac yna dewis y ddolen ar gyfer “Dylunio Arwyddion Twristiaid” yn y gwymplen.
Pwy all wneud cais?
Lleoliadau sefydliad
- Arwyddion cyfeirio ag enwau lleoedd
- Canolfannau cynghori
- Parciau busnes a pharciau diwydiannol
- Canolfannau siopa
- Enwau cymunedol
Nid rhestrau hollgynhwysfawr yw’r rhain, ond maent yn rhoi syniad o rai o’r sefydliadu sy’n gymwys ar gyfer arwyddion. Os hoffech chi wybod a yw eich cyrchfan sefydliad yn gymwys, cysylltwch â ni.
Sut mae gwneud cais
Gwnewch ceisiadau dylunio Arwyddion Twristiaid ar-leinDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd. Bydd angen i chi gofrestru’n gyntaf ac yna dewis y ddolen ar gyfer “Dylunio Arwyddion Twristiaid” yn y gwymplen.
Faint fydd hyn yn costio?
Ffi o £125 fesul cais. Does dim modd ad-dalu’r ffi. Mae’n rhaid talu â cherdyn Debyd neu Gredyd cyn bod modd prosesu’r cais.
Ffioedd 2018
Cais | £125 na ellir ei ddychwelyd |
Darparu arwyddion, gan gynnwys maint costau cynhyrchu, cludo a osod | Mae’r gost wirioneddol yn amrywio yn ôl nifer yr arwyddion a nifer y pyst sy’n angenrheidiol. * |
Gweinyddu, gan gynnwys dylunio cynllun arwyddion a’u cofnodi | £250, neu 10% o werth y project, p’un bynnag sydd fwyaf. |
*Gall hyn gynnwys ymgorffori arwyddion cyfeirio presennol lle bo angen hyn er diogelwch traffig neu ystyriaethau amgylcheddols.