Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Rhyddid Gwybodaeth

​​Bwriad Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yw hybu tryloywder a bod yn agored ym mhob rhan o’r sector cyhoeddus. Dan y Ddeddf mae gan unrhyw berson hawliau i weld gwybodaeth ar gofnod a gedwir gan y Cyngor.

Eich hawliau

O dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 mae gennych yr hawl i:
  • Gael gwybod a ydym yn cadw cofnod o'r wybodaeth rydych wedi gofyn amdani. Byddwn fel arfer yn dweud wrthych o fewn 20 diwrnod gwaith. 
  • Gael datgelu'r wybodaeth i chi os ydym yn ei chadw.  Oni bai ei bod yn dod o dan un o'r eithriadau yn y Ddeddf. 
  • Derbyn cyngor a chymorth rhesymol wrth wneud y cais. 
 
Mae'r hawliau hyn yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau a'r eithriadau a osodir gan y Ddeddf a deddfwriaeth arall. Dim ond os nad yw datgelu'r wybodaeth  er budd y cyhoedd y mae llawer o gyfyngiadau ac eithriadau yn berthnasol.

Pan ddatgelir gwybodaeth, byddwn fel arfer yn darparu copïau o'r cofnodion a gedwir. Dylai'r rhai sy'n gwneud cais fod yn ymwybodol mai hawl i gael y wybodaeth sydd agnddynt, nid i gael copïau o ddogfennau penodol a all gynnwys y wybodaeth. Gall gwybodaeth a ddatgelir fod yn ddarostyngedig i hawlfraint neu gyfyngiadau eraill ar ailddefnyddio.

Yr hyn y mae angen i chi ei ddarparu yn y cais 

Ar gyfer eich cais dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, mae’n rhaid i chi:
  • Gyflwyno eich cais yn ysgrifenedig
  • Rhoi eich enw cyntaf a'ch cyfenw go iawn
  • Rhoi eich manylion cyswllt isod.
 
Mae'r Cyngor yn gweithredu adran ganolog sy'n cydlynu ac yn prosesu Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth. Bydd yn helpu i brosesu eich cais os gallwch roi cymaint o fanylion â phosibl. Os na chawn ddigon o wybodaeth i brosesu eich cais, neu os nad yw'n glir, byddwn yn cysylltu â chi i gael rhagor o wybodaeth.

​Cyn i chi gyflwyno'ch cais 

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi gwirio ein tudalen ymatebion ceisiadau cyhoeddedig​ i weld y wybodaeth ofynnol.

Rydym hefyd yn cyhoeddi Setiau Data​. Rydym yn diweddaru'r rhain naill ai bob chwarter, bob hanner blwyddyn neu bob blwyddyn.

Os ydych yn gofyn am ddata personol, bydd angen i chi gyflwyno Cais gwrthrych data am Fynediad​ a gaiff ei brosesu o dan Ddeddf Diogelu Data 2018.

Gwneud Cais Rhyddid Gwybodaeth

Gallwch wneud cais Rhyddid Gwybodaeth ar-lein:
Ffurflen Gais Rhyddid Gwybodaeth
 
​ ​


Gallwch hefyd wneud cais Rhyddid Gwybodaeth drwy e-bost: rhyddidgwybodaeth@caerdydd.gov.uk​


Neu drwy’r post:  

Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir​
Caerdydd
CF10 4UW 

Gallwch ddarganfod sut rydym yn prosesu eich data personol cyn cyflwyno eich cais drwy ddarllen y Hysbysiad Preifatrwydd y Gwasanaeth Cais am Wybodaeth.​ 



© 2022 Cyngor Caerdydd