Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Rheoli Cyllid y cyngor

​​

​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​Datganiad o Gyfrifon​


​​​​​​





Mae’r Cyngor yn cyhoeddi ei Ddatganiad Cyfrifon (yn cynnwys Awdurdod Harbwr Caerdydd).


Mae’r cyfrifon yn rhoi gwybodaeth am ein gweithgareddau ariannol yn ystod y flwyddyn, ac asedau a rhwymedigaethau ar ddiwedd y flwyddyn. Caiff y cyfrifon eu harchwilio’n annibynnol gan Archwilio Cymru.

Mae datganiad cyfrifon Cyngor Caerdydd, ac Awdurdod Harbwr Caerdydd ynghyd ag Awdurdod Iechyd Porthladd Caerdydd a’r tri chydbwyllgor lle mae Cyngor Caerdydd yn awdurdod arweiniol Archifau Morgannwg, Prosiect Gwyrdd a Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar gael isod yn Saesneg. Yn dilyn cwblhau’r broses archwilio, bydd dogfennau a archwiliwyd ar gael yn y Gymraeg.

Hysbysiad Cwblhau Archwiliad 2021 i 2022 (80kb PDF)​

Cyngor Caerdydd yn cynnwys Awdurdod Harbwr Caerdydd

Pwrpas y Datganiad Cyfrifon yw rhoi gwybodaeth glir i etholwyr, trethdalwyr lleol, aelodau o'r Cyngor a phartïon eraill sydd â diddordeb am gyllid y Cyngor. 

Mae'r datganiad yn crynhoi: 
  • cost y gwasanaethau a ddarperir gennym yn ystod y flwyddyn 
  • sut y talwyd am wasanaethau
  • ein hasedau a'n rhwymedigaethau ar ddiwedd y flwyddyn





Rhagnodir fformat y cyfrifon gan God Ymarfer ar Gyfrifyddu Awdurdodau Lleol yn y Deyrnas Unedig Mae yna ofynion cyfreithiol sy'n gofyn am gyhoeddi cyfrifon archwiliedig erbyn cyfnod diffiniedig. O ystyried pwrpas y ddogfen, mae'n cynnwys llawer o ddiagramau a thablau mawr sy'n cynnwys rhifau a data. 

 

Ar gyfer Cyngor Caerdydd a Awdurdod Harbwr Caerdydd, Chronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg a Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, mae Rheoliad 10(1) o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y'i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol i Swyddog Ariannol Cyfrifol Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd lofnodi a dyddio'r datganiad cyfrifon, ac ardystio ei fod yn rhoi darlun cywir a theg o sefyllfa ariannol y corff ar ddiwedd y flwyddyn y mae'n berthnasol iddi ac o incwm a gwariant y corff hwnnw am y flwyddyn honno. Roedd y Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol cwblhau hyn erbyn 31 Mai 2023. Llofnododd ac ardystiodd y Swyddog Ariannol Cyfrifol y cyfrifon ar 16 Mehefin 2023.

Mae rheoliad 10(2) o Reoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014 (fel y'i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol, yn dilyn ardystiad y Swyddog Ariannol Cyfrifol y cyfeirir ato uchod, fod Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd yn cymeradwyo ac yn cyhoeddi'r datganiad cyfrifon a archwiliwyd. Roedd y Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol cwblhau hyn erbyn 31 Gorffennaf 2023. Nid yw'r archwiliad o ddatganiad cyfrifon 2022/23 wedi'i gwblhau eto ac nid oes barn archwilio wedi'i chynnig. Y datganiad cyfrifon a gyhoeddir yw'r datganiad cyfrifon nas archwiliwyd. ​



Cronfa Bensiwn Caerdydd a Bro Morgannwg​



    Datganiad Llywodraethu Blynyddol



    ​Mae'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn ddogfen statudol, sy'n esbonio'r prosesau a'r gweithdrefnau sydd ar waith i alluogi'r cyngor i gyflawni ei swyddogaethau'n effeithiol.  

    Cynhyrchir y datganiad yn dilyn adolygiad o drefniadau llywodraethu'r cyngor ac mae'n cynnwys cynllun gweithredu i fynd i'r afael ag unrhyw faterion llywodraethu sylweddol a nodwyd. 

    O ystyried pwrpas y ddogfen, mae'n cynnwys diagramau a thablau. ​



    Chyd-bwyllgorau


    Cyngor Caerdydd yw’r awdurdod arweiniol ar gyfer Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Archifau Morgannwg, Prosiect Gwyrdd ac Awdurdod Iechyd Porthladd Caerdydd.



    Cytundeb Dinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd


    ​​


    Cydbwyllgor Corfforaethol De-ddwyrain Cymru​






    Archifau Morgannwg​



    Prosiect Gwyrdd​


     


    Awdurdod Iechyd Porthladd Caerdydd

    ​​

    Cymeradwyir y ffurflen hon ochr yn ochr â chyfrifon y Cyngor. Bydd y ffurflen wedi’i harchwilio derfynol yn cael ei chymeradwyo yn y Cyngor gyda Datganiad Cyfrifon y Cyngor.​  ​

    Cyfrifoldeb y Swyddog Cyfrifeg/Swyddog Cleient yw cynnal gwefan Cyngor Dinas Caerdydd; nid yw’r gwaith a wneir gan archwilwyr yn cynnwys ystyried y materion hyn ac o ganlyniad nid yw archwilwyr yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw newidiadau a allai fod wedi digwydd i’r datganiadau ariannol ers iddynt gael eu cyflwyno yn y lle cyntaf ar y wefan. 


    Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru ​

    Rheoli Risgiau Ariannol 

    Mae gan y Cyngor ddull gweithredu rhagweithiol o ran rheoli risg sy’n ein helpu ni i fanteisio i’r eithaf ar ein hadnoddau. 

    Mae cyfrifoldeb statudol arnom i archwilio, gwerthuso a monitro sut rydym yn defnyddio ein hadnoddau, yn cynnwys ein cyllid, a gwneir y gwaith hwn gyda chymorth Archwilwyr Mewnol. 

    Mae’r Archwilwyr Mewnol yn rhoi cyngor ac arweiniad ar ddatblygu mesurau cadarn i fonitro a rheoli risg, helpu i nodi gwelliannau, a sicrhau cydymffurfiaeth â’r rheolau a’r rheoliadau. Maent hefyd yn helpu i ymdrin ag atal, canfod ac ymchwilio i achosion o dwyll a amheuir neu gamweinyddu ariannol. ​

    Gwasanaeth Archwilio Mewnol a Gwrth Dwyll

    Ma'r tîm Archwilio Mewnol yn rhoi sicrwydd, cyngor a mewnwelediad gwrthrychol sy'n seiliedig ar risg. Rhagor o wybodaeth am Archwilio Mewnol​​.


    Mae’r Tîm Ymchwilio yn gwneud ystod o waith rhagweithiol ac ymatebol i atal a chanfod twyll. Mae’n cynorthwyo rheolwyr i ddatblygu a chynnal diwylliant o ddeall trwy’r sefydliad bod twyll, llwgrwobrwyo a llygredd yn annerbyniol ac y gweithredir yn gadarn i atal a chanfod colledion twyll, dwyn twyllwyr i gyfrif yn gyflym ac yn effeithiol, ac adennill unrhyw golledion. Rhagor o wybodaeth am dwyll.​

    Yswiriant 

    Mae holl asedau ffisegol y Cyngor – megis adeiladau, cerbydau a pheiriannau – wedi’u hyswirio, ac mae yswiriant atebolrwydd gennym hefyd ar gyfer colledion ariannol a allai ddigwydd yn sgîl difrod neu anafiadau a achosir gan y Cyngor, ei gyflogeion neu bobl eraill sy’n gweithredu ar ei ran, os dyfernir mai’r Cyngor sydd ar fai.
     

    Mae ein hadran Yswiriant yn cydlynu’r gwaith o ymdrin â phob hawliad yswiriant a wneir gan y Cyngor neu yn erbyn y Cyngor. Os oes gennych ymholiad cyffredinol am yswiriant y Cyngor neu os ydych am wneud hawliad cysylltwch â ni.

    Darllenwch fwy am wneud hawliad yn erbyn y Cyngor.​


    Caiff pob hawliad ei asesu’n unigol ac yn deg, a lle bod hawliadau yn gyfreithlon, ein nod yw eu talu cyn gynted â phosibl. Fodd bynnag, nid oes unrhyw hawl awtomatig i gael iawndal – bydd angen i chi brofi mai’r Cyngor oedd ar fai yn unol â’r gyfraith.


    Cysylltu â ni

    Os oes angen dogfennau arnoch wedi eu dyddio cyn 2018 yna cysylltwch â ni.

    ​​​​
    029 2087 2247

     

    Gallwch ysgrifennu at y cyfeiriad canlynol hefyd:    

    Blwch SP 9000
    Caerdydd
    CF10 3ND ​


    © 2022 Cyngor Caerdydd