Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

2020-21

​Bob mis Chwefror, mae Cyngor Caerdydd yn pennu cyllideb ar gyfer y flwyddyn i ddod sy’n nodi faint o arian y gallwn ni ei wario ar bob un o’r gwasanaethau a ddarperir gan y Cyngor. 

£656m yw cyllideb Cyngor Caerdydd ar gyfer 2020/21. Mae Ysgolion (£254m) a’r Gwasanaethau Cymdeithasol (£182m)  yn gyfrifol am tua 66% o gyfanswm y gyllideb. Mae’r rhan fwyaf (72%) o gyllideb y Cyngor yn dod  drwy grant gan Lywodraeth Cymru, gyda 28% yn dod o’r Dreth Gyngor.



Law yn llaw â’r Adroddiad Cyllideb mae’r Cyngor hefyd wedi cyhoeddi ei:







  • ​Mae Gwasanaethau Cymdeithasol ac Ysgolion yn cynrychioli 66%
    Gwasanaethau Cymdeithasol £171m
    Ysgolion £241m

  • Na Ellir eu Rheoli* £53m
  • Cyllid Cyfalaf £50m
  • Gwasanaethau eraill** £109m

budget1w.jpg


​ * Cynllun gostyngiad y dreth gyngor ac ardollau a delir i sefydliadau eraill megis y gwasanaeth tân
** Yn cynnwys gwastraff ac ailgylchu, priffyrdd, goleuadau stryd, adfywio economaidd, llyfrgelloedd a thrafnidiaeth.

Bydd y swm a dderbynnir gan y Cyngor o Lywodraeth Cymru yn cynyddu gan 4.1% (neu £18.5m) y flwyddyn nesaf ac rydym yn cynnig cynyddu lefelau’r Dreth Gyngor gan 4.5%. 
  • Defnydd o gronfeydd wrth gefn £3m
  • Cyllid Llywodraeth Cyffredinol £445m
  • Treth Gyngor £176m
    budget2w.jpg


Er y bydd y Cyngor yn gweld cynnydd mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru, mae’r pwysau a achosir gan dwf yn y boblogaeth ac anghydraddoldeb, ochr yn ochr â phwysau cost fel chwyddiant, yn golygu bod y gost o ddarparu ein gwasanaethau yn parhau i godi.

Bydd angen dod o hyd i’r gwahaniaeth rhwng y gost ddisgwyliedig o ddarparu gwasanaethau a’r swm y mae’r Cyngor yn disgwyl ei gael drwy arbedion. Ar gyfer 2020/21 y ffigur hwn yw £9.478m.

Cyfleoedd Incwm
Gallwn ddefnyddio ein maint ac arbenigedd i ddarparu gwasanaethau ar gyfer sefydliadau a chwsmeriaid eraill a thrwy hynny gynhyrchu incwm, wrth barhau i ddarparu ein gwasanaethau rheng flaen i drigolion. Mae hefyd angen i ni adolygu prisiau yn unol â chostau. Ar gyfer 2020/21 bydd y Cyngor yn cynhyrchu £2.205m drwy gynigion incwm.

Newid Gwasanaethau
Bydd yr arbedion hyn yn cael eu cyflawni drwy newid gwasanaethau drwy fesurau fel gweithredu strategaethau comisiynu newydd a modelau gweithredu cytûn ar draws y Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion a Phlant. Ni fyddai’r rhain yn cael effaith negyddol ar ddefnyddwyr gwasanaeth. Ar gyfer 2020/21 bydd y Cyngor yn dod o hyd i £1.9 miliwn drwy gynigion Newid Gwasanaethau. Er na chaiff pob un ei gynnwys yn yr ymgynghoriad dinas-eang, gallai fod angen ymgynghori ar rai o’r cynigion newid gwasanaethau gyda defnyddwyr gwasanaethau penodol, neu barhau â strategaethau sydd wedi bod yn destun ymgynghoriad yn flaenorol.

Arbedion Effeithlonrwydd
Diffinnir y rhain fel arbedion sy’n cyflawni’r un allbwn (neu fwy) am lai o adnoddau heb effaith sylweddol ar y trigolyn neu gwsmer. Ar gyfer 2020/21 bydd y Cyngor yn dod o hyd i £5.373m drwy effeithlonrwydd. Mae hyn yn cynnwys cyfraniad effeithlonrwydd o 0.5% gan ysgolion, sy’n cyfateb i £1.207m, ac mae wedi’i gynnwys yn yr ymgynghoriad. O’r £4.166m sydd i’w ganfod drwy wasanaethau nad ydynt yn ysgolion, disgwylir y bydd £1.081m wedi’i ganfod erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon.




Dweud eich dweud

 Daeth yr ymgynghoriad ar y gyllideb i ben ar 31 Ionawr 2020.​​​​


Archif y Gyllideb

​​ ​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd