Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Gwybodaeth y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Sylwch fod ein proses adnewyddu gyrwyr wedi newid. Ni fydd modd i chi adnewyddu eich trwydded tan cewch eich tystysgrif Datgelu a Gwahardd.

Gall gymryd hyd at 60 diwrnod i chi gael y dystysgrif. Mae’r broses y tu allan i reolaeth Adran Drwyddedu Caerdydd felly cychwynnwch y broses Datgelu a Gwahardd cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi oedi.

Mae Adran Drwyddedu Caerdydd nawr yn defnyddio system E-Swmp Datgelu a Gwahardd Bro Morgannwg. Sylwch fod rhaid cwblhau’r broses trwy’r Swyddfa Cerbydau Cyhoeddus ac nid unrhyw wefan arall.

Pan gewch y llythyr adnewyddu, dilynwch y camau hyn:


  • Cam 1. E-bostiwch y manylion canlynol i tacsidbs@caerdydd.gov.uk : eich enw llawn, dyddiad geni a rhif eich bathodyn.  

  • Cam 2. Anfonwn e-bost atoch gydag enw defnyddiwr a chyfrinair i chi gwblhau ffurflen datgelu a gwahardd ar-lein.  

  • Cam 3. Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn rhoi gwybod i ni pan foch wedi gwneud hyn, bydd angen i chi fynd i’r Swyddfa Cerbydau Cyhoeddus i ni wirio pwy ydych chi. Sicrhewch eich bod yn dod â’r dogfennau adnabod perthnasol a’r ffi o £47. Canllaw ar ddogfennau adnabod derbyniol​​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd 

  • Cam 4. Wedi i ni gael y canlyniad datgelu a gwahardd, ewch i’r Swyddfa Cerbydau Cyhoeddus eto gyda’ch ffurflen Cais am Adnewyddu wedi ei chwblhau, 4 llun pasbort diweddar a’ch hen fathodynnau.  Byddwn yn gwneud prawf DVLA ac yna caiff eich bathodynnau eu hadnewyddu, bydd modd adnewyddu’r drwydded hyd at 28 diwrnod cyn y dyddiad darfod ond nid cyn i ni gael canlyniad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.



Sicrhewch eich bod yn llenwi ffurflen ar-lein y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn gywir, gan gynnwys sillafu cywir a hanes cyfeiriad llawn. Gall camgymeriadau neu wybodaeth sydd ar goll arwain at y DBS yn canslo eich cais a bydd angen i chi wneud cais a thalu eto.

Gwasanaeth Diweddaru Datgelu a Gwahardd 

 Argymhellir yn gryf bod yr holl yrwyr yn ymuno â’r Gwasanaeth Diweddaru datgelu a Gwahardd oherwydd y bydd hyn yn osgoi oedi ac yn gwneud y broses yn llawer haws y tro nesaf. Rhaid i chi ymuno â’r Gwasanaeth Diweddaru o fewn 30 diwrnod wedi cyflwyno’r dystysgrif. Gwybodaeth bellach ar Wasanaeth Diweddaru’r GDG​​​​​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd 

© 2022 Cyngor Caerdydd